Coup d'état Myanmar (2021)
Cipiodd fyddin Myanmar grym ar fore 1 Chwefror 2021, gan ddymchwel y llywodraeth a chynnal llywodraeth filwrol yn nwylo'r Tatmadaw. Cafodd arweinwyr sifil y wlad, Win Myint (Arlywydd) ac Aung San Suu Kyi (Cwnsler y Wladwriaeth), eu harestio a'u cadw yn y ddalfa. Cyhoeddodd y Tatmadaw flwyddyn o bwerau argyfwng, a datgan bod pŵer wedi'i freinio i Min Aung Hlaing, Cadlywydd y Gwasanaethau Amddiffyn. Cyhoeddodd fod canlyniadau etholiad cyffredinol Tachwedd 2020 yn annilys a nododd ei fwriad i gynnal etholiad newydd ar ddiwedd blwyddyn o stad o argyfwng.[1]
Enghraifft o'r canlynol | coup d'état |
---|---|
Dyddiad | 1 Chwefror 2021 |
Dechreuwyd | 1 Chwefror 2021 |
Olynwyd gan | 2021–2023 Myanmar protests |
Gwladwriaeth | Myanmar |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cefndir
golyguMae Myanmar, a elwir hefyd yn Burma, wedi bod yn destun ansefydlogrwydd gwleidyddol ers iddi ddatgan annibyniaeth o Brydain ym 1948. Rhwng 1958 a 1960, ffurfiodd y fyddin lywodraeth dros dro ar gais U Nu, prif weinidog y wlad a etholwyd yn ddemocrataidd, er mwyn datrys gwrthdaro gwleidyddol.[2] Fe wnaeth y fyddin adfer llywodraeth sifil yn wirfoddol ar ôl cynnal etholiad cyffredinol ym 1960. Lai na dwy flynedd yn ddiweddarach, cipiodd y fyddin bŵer ym 1962, gan arwain at 26 mlynedd o reolaeth filwrol, dan arweinyddiaeth Ne Win.[3]
Ym 1988, cychwynnodd protestiadau ledled y wlad, o'r enw Gwrthryfel 8888. Sbardunwyd yr aflonyddwch sifil gan gamreoli economaidd, ac fe arweiniodd at ymddiswyddiad Ne Win.[4] Ym mis Medi 1988, ffurfiodd prif arweinwyr y fyddin Gyngor Adfer Cyfraith a Threfn y Wladwriaeth (SLORC), a gipiodd y pŵer wedyn.[4] Daeth Aung San Suu Kyi, merch sylfaenydd modern y wlad, Aung San, yn ymgyrchydd nodedig o blaid democratiaeth yn ystod y cyfnod hwn. Ym 1990, caniatäodd y fyddin etholiadau rhydd, gan dybio y byddai'r bobl yn cefnogi'r fyddin. Yn y pen draw, arweiniodd yr etholiadau at fuddugoliaeth ysgubol gan blaid Suu Kyi, y Gynghrair Genedlaethol dros Ddemocratiaeth. Fodd bynnag, gwrthododd y fyddin trosglwyddo grym, a chyfyngwyd Suu Kyi i'w thŷ.[5]
Arhosodd y fyddin mewn grym am 22 mlynedd arall tan 2011,[6] yn dilyn cynllun y fyddin tuag at ddemocratiaeth, pryd y cafodd Cyfansoddiad Myanmar 2008 ei ddrafftio. Rhwng 2011 a 2015, cychwynnodd trawsnewidiad democrataidd bregus, ac arweiniodd at etholiadau a gynhaliwyd yn 2015 at fuddugoliaeth i blaid Suu Kyi, y Gynghrair Genedlaethol dros Ddemocratiaeth.[3] Fodd bynnag, cadwodd y fyddin bŵer sylweddol, gan gynnwys yr hawl i benodi chwarter aelodau seneddol y wlad.[7]
Mae'r wlad yn destun trafodaeth ers 2016 o ganlyniad i hil-laddiad yn erbyn grŵp lleiafrifol y Rohingya. Fe feirniadwyd Aung San Suu Kyi yn hallt gan nifer o wledydd, sefydliadau a phobl adnabyddus am wneud dim i atal erledigaeth pobl Rohingya yn Nhalaith Rakhine, a gwrthod derbyn bod milwyr Myanmar wedi cyflawni sawl cyflafan.[8]
Cipiwyd grym yn 2021 yn dilyn yr etholiad cyffredinol ar 8 Tachwedd 2020, lle enillodd y Gynghrair Genedlaethol dros Ddemocratiaeth (NLD) 396 o'r 476 sedd yn y senedd, buddugoliaeth mwyafrifol hyd yn oed yn fwy nag yn etholiad 2015. Enillodd plaid ddirprwy’r fyddin, Plaid Undod a Datblygu’r Undeb, 33 sedd yn unig. Roedd y fyddin yn anghytuno â'r canlyniadau, gan honni bod y bleidlais yn dwyllodrus.[7]
Digwyddiadau
golyguYn gynnar ar fore 1 Chwefror, cipiwyd Suu Kyi ac arweinwyr eraill ei phlaid. Yna torrwyd y Rhyngrwyd a'r llinellau ffôn fel na allai pobl siarad ag eraill y tu mewn neu'r tu allan i'r wlad. Bob nos fe wnaeth y llywodraeth filwrol ddiffodd y rhyngrwyd.
Protestiadau
golyguCynhaliwyd nifer o brotestiadau yn y wlad (ac yn rhyngwladol) gyda milwyr yn defnyddio trais i rwystro hawliau dynol pobl i brotestio.[9] Mae gan bobl ifanc le amlwg yn yr ymgyrch yn erbyn yr unbennaeth filwrol. Wrth i bobl gwrthod gweithio dan y drefn newydd, buodd yn rhaid i ysbytai gau, ac ar 14 Chwefror peidiodd system rheilffyrdd y wlad[10].
Ymateb rhyngwladol
golyguFe wnaeth nifer o wledydd condemnio'r cipio grym. Rhewodd llywodraeth yr Unol Daleithiau asedau llywodraeth Myanmar; beirniadodd Tsieina a Japan (sef y gwledydd mwyaf eu masnach â Myanmar) ond heb gymryd camau pendant; a nodwyd bod yr Undeb Ewropeaidd yn "ystyried sancsiynau".[10] Dywedodd Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig, Dominic Raab, ei fod yn condemnio’r “pwerau argyfwng ym Myanmar ac arestio aelodau blaenllaw o’r Llywodraeth Sifil yn anghyfreithlon.” Ychwanegodd bod angen “parchu dymuniadau democrataidd pobl Myanmar.” [1] Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Antonio Guterres, y byddai’r Cenhedloedd Unedig yn cydweithio gydag arweinwyr rhyngwladol “i roi digon o bwysau ar Myanmar er mwyn sicrhau bod y cipio grym yn methu.”[11] Ond methu bu hanes pleidlais i gondemnio'r cipio grym yn Nghyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.[10]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Llywodraeth Prydain yn beirniadu'r coup milwrol yn Myanmar". Golwg360. 2021-02-01. Cyrchwyd 2021-02-23.
- ↑ "On This Day | The Day Myanmar's Elected Prime Minister Handed Over Power". The Irrawaddy (yn Saesneg). 2020-09-26. Cyrchwyd 2021-02-23.
- ↑ 3.0 3.1 "Buddugoliaeth yn Burma i blaid newydd". Golwg360. 2015-11-13. Cyrchwyd 2021-02-23.
- ↑ 4.0 4.1 "How A Failed Uprising Set The Stage For Myanmar's Future". Time. Cyrchwyd 2021-02-23.
- ↑ "Burma: 20 Years After 1990 Elections, Democracy Still Denied". Human Rights Watch (yn Saesneg). 2010-05-26. Cyrchwyd 2021-02-23.
- ↑ "How Myanmar's Fragile Push for Democracy Collapsed in a Military Coup". Time. Cyrchwyd 2021-02-23.
- ↑ 7.0 7.1 Beech, Hannah (2021-01-31). "Myanmar's Leader, Daw Aung San Suu Kyi, Is Detained Amid Coup". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2021-02-23.
- ↑ Beech, Hannah. "What Happened to Myanmar's Human-Rights Icon?". The New Yorker (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-23.
- ↑ "Protestiadau wrth i luoedd arfog Myanmar gymryd rheolaeth o'r wlad". Golwg360. 2021-02-10. Cyrchwyd 2021-02-23.
- ↑ 10.0 10.1 10.2 Chaumeau, Christine (2021-03). "La jeunese birmane défie la junte". Le Monde Diplomatique: 10.
- ↑ "Galw ar arweinwyr rhyngwladol i sicrhau bod y coup milwrol yn Myanmar yn methu". Golwg360. 2021-02-04. Cyrchwyd 2021-02-23.