Sampl o ar ffurf colofn ddi-dor a geir drwy suddo twll turio drwy len iâ, cap iâ neu rewlif yw craidd ia.

craidd ia X4

Mae'r fath golofnau o iâ haenog yn darparu tystiolaeth ddirprwyol o newidiadau atmosfferig a hinsoddol dros amser, yn ogystal ag echdoriadau folcanig. Yn achos 'Llen Iâ'r Ynys Las' (Grønland) mae'n bosibl cyfri'r haenau blynyddol o iâ yn ôl dros gyfnod o oddeutu 100,000 o flynyddoedd ond mae'r iâ hynaf dros 200,000 o flynyddoedd oed. Mae cofnod iâ'r Antarctig yn llai manwl na chofnod yr Ynys Las ond mae'n ymestyn yn ôl dros gyfnod o oddeutu 450,000 o flynyddoedd.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-29.