Cramennog

(Ailgyfeiriad o Cramenogion)
Cramenogion
Cimwch (Homarus gammarus)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Is-ffylwm: Crustacea
Dosbarthiadau

Anifeiliaid di-asgwrn-cefn o'r is-ffylwm Crustacea yw cramenogion. Maen nhw'n byw mewn dŵr gan amlaf, ond mae moch coed yn byw mewn cynefinoedd daearol.

Mae 55,000 o rywogaethau o gramenogion. Maen nhw'n cynnwys y cranc, y cimwch, y gorgimwch (prawn), y berdysen (shrimp), y cimwch coch (crawfish) a'r gragen llong. Y gwahaniaeth amlwg rhwng y perdys a'r corgimychiaid yw eu maint gyda'r corgimwch yn ddwywaith maint y berdysen - yn aml, rhwng 12 cm a'r rhai trofannol hyd at 35 cm o'i gymharu â'r perdys oddeutu 7 cm. Maent yn byw yn y môr neu mewn dŵr croyw. Pan fo'r corgimychiaid yn cael eu paratoi ar gyfer y bwrdd bwyd, gelwir nhw yn 'sgampi'.

Eginyn erthygl sydd uchod am anifail. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Chwiliwch am Cramennog
yn Wiciadur.