Damcaniaeth neu athrawiaeth Gristnogol yw creadaeth sydd yn honni i'r cyfanfyd materol a'r holl fywyd ynddo gael ei greu gan Dduw. Mae'n dal taw y creu yn ôl Genesis yw hanes llythrennol dechreuad y bydysawd, a chreadigaeth ddwyfol ydy pob rhywogaeth a'r rheiny wedi eu dylunio gan y deallusrwydd uchaf.

Mae'r ddadl rhwng creadaeth a gwyddoniaeth yn bwnc llosg, yn enwedig yn Unol Daleithiau America. Yno, mae nifer o greadyddion yn galw'r athrawiaeth yn "wyddor creadaeth" neu'n "greadaeth wyddonol", gan haeru ei fod yn damcaniaeth wyddonol sydd yn wrthbrofi damcaniaeth y Glec Fawr ac esblygiad. Ystyrir hyn yn ffugwyddoniaeth gan wyddonwyr.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Noel A. Davies. "Ymateb ffydd i wyddoniaeth gyfoes Archifwyd 2021-12-03 yn y Peiriant Wayback.", Gwerddon 4 (Gorffennaf 2009).