Crec yr Eithin

rhywogaeth o adar
Crec yr Eithin
Ceiliog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Muscicapidae
Genws: Saxicola
Rhywogaeth: S. rubetra
Enw deuenwol
Saxicola rubetra
(Linnaeus, 1766)

Mae Crec yr Eithin (Saxicola rubetra ) yn aelod o'r genws Saxicola sy'n nythu trwy'r rhan fwyaf o Ewrop ac Asia. Mae'n aderyn mudol sy'n treulio'r gaeaf yn Affrica.

Mae'n nythu ar dir agored, yn aml ar wahanol fathau o dir diffaith. Gellir adnabod yr aderyn yma yn hawdd, yn enwedig y ceilog gyda'i ben du a llinell wen amlwg iawn uwchben y llygad, cefn brown a chynffon wen gyda du ar ei blaen a daranau gwyn ar yr adenydd. Mae'r iâr yn fwy brown, a heb y darnau gwyn ar yr adenydd. Mae tua'r un faint a Robin Goch, 13–14 cm o hyd ac yn pwyso 15-20 gram.

Mae Crec yr Eithin yn aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru ond mae'r niferoedd wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf. Ar dir "ffridd", rhwng y tir isel a'r mynydd, y mae fwyaf cyffredin.