Craiglyn Dyfi
(Ailgyfeiriad oddi wrth Creiglyn Dyfi)
Llyn ar lethrau dwyreiniol Aran Fawddwy yng Ngwynedd yw Craiglyn Dyfi neu Creiglyn Dyfi. Saif y llyn, sydd ag arwynebedd o 15 acer, mewn cwm 1,905 troedfedd uwch lefel y môr. Mae'r nant sy'n llifo ohono yn dwyn yr enw Llaethnant, sy'n llifo tua'r dwyrain ac yn ymuno a nentydd eraill i ffurfio Afon Dyfi.
Math |
llyn ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Gwynedd ![]() |
Gwlad |
![]() |
Ceir nifer o draddodiadau am y llyn, yn cynnwys un am gawr oedd yn byw yn yr ardal ac a oedd yn ymlochi yn y llyn bob Calan Haf i sicrhau ieuenctid tragwyddol. Roedd hefyd gysylltiadau a'r Tylwyth Teg.
LlyfryddiaethGolygu
- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)