Cressida Dick
Mae'r Fonesig Cressida Rose Dick DBE QPM (ganwyd 16 Hydref 1960 [1] ) yn heddwas o Loegr a benodwyd yn 2017 yn Gomisiynydd y Gwasanaeth Heddlu Metropolitan (MPS) yn Llundain.
Cressida Dick | |
---|---|
Ganwyd | Cressida Rose Dick 16 Hydref 1960 Rhydychen |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | heddwas |
Swydd | Comisiynydd Heddlu'r Metropolis |
Tad | Marcus William Dick |
Mam | Cecilia Rachel Buxton |
Gwobr/au | CBE, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, King's Police Medal |
Cressida Dick yw'r fenyw gyntaf i fod yn gyfrifol am y gwasanaeth, gan gael ei dewis ar gyfer y rôl ym mis Chwefror 2017 a chymryd ei swydd ar 10 Ebrill 2017.
Yn flaenorol roedd yn uwch swyddog yn yr MPS. Gwasanaethodd Dick fel Dirprwy Gomisiynydd dros dro yn y cyfamser rhwng ymddeoliad y Dirprwy Gomisiynydd Tim Godwin a'i olynydd parhaol, Craig Mackey.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dodd, Vikram (8 Ebrill 2017). "Cressida Dick: the Met's new commissioner needs her wits about her". The Guardian. Cyrchwyd 5 Mehefin 2017.