Heddlu Metropolitan

Y Gwasanaeth Heddlu Metropolitan (MPS), sy'n cael ei hadnabod yn anffurfiol fel yr Heddlu Metropolitan neu'r Met,[1] yw'r heddlu tiriogaethol sy'n gyfrifol am orfodi'r gyfraith yn Llundain Fwyaf, ac eithrio "milltir sgwâr" Dinas Llundain, sef cyfrifoldeb Heddlu Dinas Llundain.[2]

Heddlu Metropolitan
Enghraifft o'r canlynolheddlu tiriogaethol, sefydliad, municipal police Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu29 Medi 1829 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganBow Street Runners Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadComisiynydd Heddlu'r Metropolis Edit this on Wikidata
SylfaenyddRobert Peel Edit this on Wikidata
Gweithwyr33,128 heddwas, 9,804 clerc, 3,017 lluoedd arbennig Edit this on Wikidata
PencadlysNew Scotland Yard Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.met.police.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Arwydd eiconig New Scotland Yard, pencadlys y Met

Mae gan y Met hefyd gyfrifoldebau cenedlaethol sylweddol, megis cydlynu ac arwain materion gwrthderfysgaeth genedlaethol ar draws y DU, a diogelu aelodau uwch y Teulu Brenhinol Prydeinig, a hefyd aelodau'r Cabinet ac aelodau gweinidogol eraill Llywodraeth San Steffan.[3]

O fis Medi 2017, roedd gan y Met 40,874 o staff llawn amser. Roedd hyn yn cynnwys 30,871 o swyddogion heddlu, 8,005 o staff yr heddlu, 1,384 o swyddogion cefnogi cymunedol yr heddlu a 614 o swyddogion dynodedig. Mae'r rhif hwn yn eithrio'r 2,470 o gwnstabliaid arbennig, sy'n gweithio'n wirfoddol yn rhan-amser (o leiaf 16 awr y mis) ac sydd â'r un pwerau a'r un wisg â'u cydweithwyr rheolaidd. Mae hyn yn golygu mae'r Heddlu Metropolitan, o ran niferoedd swyddogion, yw'r heddlu mwyaf yn y Deyrnas Unedig o bell ffordd, ac un o'r mwyaf yn y byd. O ran ei ardal heddlu (ardal ddaearyddol sylfaenol o gyfrifoldeb), gan adael ei gyfrifoldebau cenedlaethol o'r neilltu, mae gan yr Met yr 8fed ardal heddlu lleiaf o'r heddluoedd tiriogaethol yn y Deyrnas Unedig.

Arweinydd gweithredol cyffredinol yr heddlu yw'r Comisiynydd, y teitl ffurfiol yw Comisiynydd Heddlu'r Metropolis. Mae'r Comisiynydd yn atebol ac yn gyfrifol i'r Frenhines, y Swyddfa Gartref a Maer Llundain, trwy Swyddfa Plismona a Throsedd y Maer. Deiliaid cyntaf swydd y Comisiynydd oedd Syr Charles Rowan a Syr Richard Mayne a oedd yn gomisiynwyr ar y cyd. Ers Ebrill 2017 mae Cressida Dick yn dal y swydd.

Mae nifer o enwau a byrfoddau anffurfiol yn cael eu defnyddio ar gyfer y Gwasanaeth Heddlu Metropolitan, y mwyaf cyffredin yw'r Met. Yn Llundain mae'r Met yn aml yn draddodiadol yn cael ei alw The Old Bill (er bod yr enw, bellach, yn cael ei ddefnyddio yn cyffredin am unrhyw wasanaeth heddlu). Cyfeirir at y Met hefyd fel Scotland Yard ar ôl lleoliad ei bencadlys gwreiddiol mewn ffordd o'r enw Great Scotland Yard yn Whitehall. Pencadlys presennol y Met yw New Scotland Yard, a leolir ar y Victoria Embankment.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Metropolitan Police Service – Homepage". Metropolitan Police. 2 April 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-08. Cyrchwyd 6 May 2009.
  2. "Scotland Yard". Robinsonlibrary.com. 30 November 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-26. Cyrchwyd 2 June 2010.
  3. "MPA — Metropolitan Police dedicated to protecting the UK from terrorism". whitehallpages.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 July 2011. Cyrchwyd 22 July 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. Douglas Browne (1956) The Rise of Scotland Yard: A History of the Metropolitan Police