Croes Sant Brynach

croes Geltaidd yn Eglwys Sant Brynach, Nanhyfer, Llanfrynach

Mae Croes Sant Brynach neu Croes Nanhyfer yn groes garreg o'r 10fed neu'r 11eg ganrif yn eglwys Sant Brynach, Nanhyfer.

Croes Sant Brynach
Enghraifft o'r canlynolcroes eglwysig Edit this on Wikidata
Rhan oEglwys Sant Brynach Edit this on Wikidata
LleoliadEglwys Sant Brynach Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthSir Benfro Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Croes Sant Brynach neu Croes Nanhyfer

Credir bod y groes yn dyddio o'r 10fed neu'r 11eg ganrif. Yn ôl y chwedl mae gôg cyntaf y flwyddyn yng Ngorllewin Cymru yn sefyll ar ben y groes ac yn canu ar ddydd gwledd Sant Brynach ar y 7fed o Ebrill.[1]

Saif y groes yn 3.72m o daldra ym mynwent Eglwys Sant Brynach a nodwyd yn ei safle presennol gyntaf yn 1603 gan George Owen, Henllys.[2]

Mae'r groes yn ddeuddarn, wedi'i gwneud o garreg Ordofigaidd; y siafft hirsgwar a'r pen croes. Mae'r groes yn dangos patrymau rhyngblethedig a ffret wedi'u cerfio i'r graig sydd â dylanwad Llychlynwyr. Mae arysgrif "DNS" ar ochr orllewinol y groes yn cyfieithu fel "Arglwydd" ac mae arysgrif ar yr wyneb dwyreiniol yn cyfieithu fel "Hauen".[2]

Mae’n debygol bod Croes Sant Brynach a Chroes Caeriw wedi’u gwneud yn yr un gweithdy mynachlog ac yn dyddio o ail hanner y 10fed ganrif neu ddechrau’r 11eg ganrif.[3]

Ystyrir Croes Brynach Sant, Croes Caeriw a Maen Achwyfan yn dair croes eithriadol Cymru.[4]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Rees, Huw (6 Hydref 2022). Wales on This Day (yn Saesneg). Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 978-1-915279-12-5.
  2. 2.0 2.1 "English – Coflein". coflein.gov.uk. Cyrchwyd 7 Chwefror 2023.
  3. Hull, Derek (2003-01-01). Celtic and Anglo-Saxon Art: Geometric Aspects (yn Saesneg). Liverpool University Press. t. 215. ISBN 978-0-85323-549-1.
  4. Pemberton, Cintra (October 1999). Soulfaring: Celtic Pilgrimages Then and Now (yn Saesneg). Church Publishing, Inc. t. 177. ISBN 978-0-8192-1780-6.