Pentref, plwyf eglwysig a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanengan[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn ardal Llŷn, tuag 8 milltir i'r de-orllewin o dref Pwllheli.

Llanengan
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.809°N 4.531°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000076 Edit this on Wikidata
Cod OSSH293269 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Saif pentref Llanengan heb fod ymhell o'r môr, i'r de-orllewin o Abersoch. Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o oddeutu'r 15g, i Sant Engan.

Heblaw pentref Llanengan, mae cymuned Llanengan yn cynnwys pentrefi Abersoch, Mynytho, Bwlchtocyn a Llangïan. Mae'r boblogaeth yn 2,124.

I'r gorllewin ceir traeth llydan Porth Neigwl. Gellir cyrraedd y bae trwy ddilyn lôn o'r pentref i Dai-morfa lle ceir llwybr sy'n arwain i'r traeth.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]

Safle hen mwynglawdd ar gyrion Llanengan

Cyfrifon Robert Thomas y crydd golygu

Enwau tai golygu

Nododd Robert Thomas y crydd (Gongl Gron, Llanengan) yn ei lyfrau cownt o 1868-74 nifer o enwau anheddau‘r plwyf (ynghyd ag enwau’r cwsmeriaid a breswyliai ynddynt), llawer ohonynt wedi peidio a bod mwyach: Deicws Bach Ceiriad, Wil Tyddynglasdwrn, Dic Morfa, Ellen Punt y Gwair, Evan Llain, Thomas Owen Ty’r Ysgol Llan, Cadi Difir, William Roberts Picstreet, Geini Tywyn, Robert Pengogo, Harry Caegwynllian, Logiar Corn, Nelli Lone Bach Morfa Neigwl, hen ddynas Creigr Coch, hen Ann Lawrdre bella, ac un go ryfedd - Twm Corffyfarwolaeth (weithiau Twm Refel neu Corff y farwolaeth.[5]

Galwedigaethau golygu

Enwir nifer o gwsmeriaid yn y llyfrau cownt yn ôl eu gwaith: Morwynion (cyfanswm o 6); Morwyn Dafern Abersoch, Ellen hen forwyn Tan y Fonwent [sic.], Lydia mowyn Barach, hen forwyn Plas Llwyndu, morwyn docdor, morwyn person Rhiw. Gweision (cyfanswm o 3): John gwas Tanrallt, Twm hen was Towyn, John gwas Trewern, Crefftwyr: John tailor, Evan Jones saer, Boy Saer ceryg, Ned masiwn Raber, John gof Sarn, Rich gof Cilan (+4 gof arall), Cloddwyr yn y gwaith plwm: enwir 11 meinar (3 yn unig ag enwau hysbys Cymreig, cyfenwau eraill yn Raw, Pock a Stiward. Cyfeirir at un fel “meinar du Tanybwlch”. Eraill a gysylltir â gwaith oedd Will Soldier, gwraig Police, Robert Watchmaker, School[master] Ysgol Bella. Yn Hydref 1872 cafodd “hen drampar gwad cryf”[5]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanengan (pob oed) (1,989)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanengan) (1,074)
  
55.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanengan) (1091)
  
54.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanengan) (408)
  
42.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 23 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. 5.0 5.1 Llyfrau Cownt Robert Thomas y Crydd (g. 1855) yn eiddo i deulu Anet Tomos, gyda chaniatad
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.