Darn byr ar ddechrau erthygl, adolygiad, traethawd ymchwil, papur academaidd neu unrhyw ddadansoddiad manwl o bwnc arbennig yw crynodeb sy'n casglu ynghyd y prif bwyntiau er mwyn i'r darllenydd ddeall pwrpas y gwaith heb orfod darllen y testun cyfan.[1]

Defnyddir y term amgen précis mewn rhai cyhoeddiadau, gair Ffrangeg a fathwyd yn 1760; Saesneg: Abstract (summary). Mewn adroddiadau rheolaethol, yr arferiad yw rhoi 'crynodeb gweithredol' (executive summary) sydd, fel arfer, yn cynnwys mwy o wybodaeth na'r crynodeb arferol.

Cyfeiriadau golygu

  1. colegcymraeg.ac.uk; Archifwyd 2017-07-29 yn y Peiriant Wayback. Geiriadur Termau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol - Seicoleg.
  Eginyn erthygl sydd uchod am addysg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato