Traethawd ymchwil

Traethawd hir a gyflwynir fel rhan o radd academaidd yw traethawd ymchwil, thesis (lluosog: thesisau neu theses),[1] traethawd estynedig, neu draethawd doethurol. Ymdriniaeth gan yr awdur o bwnc penodol yw hi, sy'n cyflwyno ymchwil, darganfyddiadau a chasgliadau. Mae ei strwythur a chynnwys yn amrywio yn ôl sefydliad addysg, ond yn aml maent yn cynnwys crynodeb, adolygiad llenyddol, a llyfryddiaeth yn ogystal â phrif gorff y gwaith. Mae'n rhaid i rai myfyrwyr gwblhau cynnig ymchwil cyn cyflwyno eu traethawd ymchwil.

Tudalen flaen Om Begrebet Ironi med stadigt Hensyn til Socrates (Daneg am Ar Gysyniad Eironi gan Gyfeirio'n barhaol at Socrates), traethawd ymchwil gan Søren Kierkegaard.

Mae defnydd y termau amrywiol am y math hwn o waith yn amrywio yn ôl gwlad. Mewn prifysgolion y Deyrnas Unedig, cyflwynir traethawd hir neu draethawd estynedig (Saesneg: dissertation) fel rhan o radd israddedig neu weithiau gradd meistr ddysgedig, a chyflwynir traethawd ymchwil neu thesis fel rhan o radd meistr ymchwil neu ddoethuriaeth (a elwir weithiau yn draethawd doethurol yn achos doethuriaeth).

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1467 [thesis].