Culfor Hormuz
Mae Culfor Hormuz[1] (Arabeg: مضيق هرمز - Madīq Hurmuz) yn gulfor sy'n gwahanu Gwlff Persia yn y gorllewin oddi wrth Gwlff Oman yn y dwyrain. Ar ochr ogleddol y culfor mae Iran, ac ar yr ochr ddeheuol Yr Emiradau Arabaidd Unedig a Musandam, sy'n rhan o Oman.
![]() | |
Math | culfor ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Môr Arabia ![]() |
Sir | Oman ![]() |
Gwlad | Iran, Oman, Yr Emiradau Arabaidd Unedig ![]() |
Cyfesurynnau | 26.5667°N 56.25°E ![]() |
![]() | |
Mae'r culfor yn 21 milltir o led yn ei fan gulaf. Dyma'r unig ffordd allan o Gwlff Persia i'r llongau tancer sy'n cario olew o'r gwledydd o amgylch y Gwlff, ac amcangyfrifir bod tua 40 y cant o olew y byd yn mynd trwy'r culfor yma. Oherwydd hyn, mae o bwysigrwydd strategol mawr.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gareth Jones (gol.), Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 95.