Rhanbarth o Gefnfor India a ffinir i'r dwyrain gan India, i'r gogledd gan Iran a Pacistan, i'r gorllewin gan Arabia, ac i'r de gan linell ddychymygol rhwng Penrhyn Guardafui yn Somalia (Puntland), ynysoedd Socotra, a Penrhyn Comorin (Kanyakumari) yn India yw Môr Arabia (Arabeg: بحر العرب ; Bahr al-'Arab).

Môr Arabia
Mathmôr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCefnfor India Edit this on Wikidata
GwladIndia Edit this on Wikidata
Arwynebedd3,862,000 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau16°N 64°E Edit this on Wikidata
Map
Map o Fôr Arabia
Golygfa ar Fôr Arabia o Gaer St. Angelo yn Kerala, de India

Ei led mwyaf yw tua 2400 km, a'i ddyfnder mwyaf yw tua 4652 medr, ger arfordir deheuol India. Afon Indus yw'r afon fwyaf sy'n llifo i'r môr hwn. Gelwir arfordir canolbarth India ar y môr hwn yn arfordir Konkan, a'r arfordir yn ne India yn arfordir Malabar. Yn y gogledd gorwedd tir anial Makran, yn Iran a Pacistan, ar y môr.

Mae gan Môr Arabia ddwy fraich fawr, sef Gwlff Aden yn y de-orllewin, sy'n cysylltu i'r Môr Coch trwy gulfor Bab al Mandab, a Gwlff Oman yn y gogledd-orllewin, sy'n ei gysylltu â Gwlff Persia. Yn ogystal ceir Gwlff Cambay a Gwlff Kutch ar arfordir isgyfandir India. Ychydig o ynysoedd a geir yn y môr. Maent yn cynnwys Socotra oddi ar Gorn Affrica ac ynysoedd Lakshadweep, oddi ar arfordir India.

Mae gan India, Iemen, Oman, Iran, Pacistan, Sri Lanca, y Maldives, a Somalia arfordir ar Fôr Arabia.

Mae'r dinasoedd ar ei lannau yn cynnwys Mumbai (Bombay), Surat, Goa, Mangalore, a Kochi yn India, Karachi yn Pacistan, Aden yn Iemen, Salalah yn Oman, Chabahar yn Iran, a Mogadishu yn Somalia.

Ers canrifoedd lawer mae Môr Arabia wedi bod yn dramwyfa i longau masnach yn cludo nwyddau a phobl rhwng y Dwyrain Canol (yn enwedig yr Aifft, Arabia a Mesopotamia) ac isgyfandir India ar y llwybr i dde-ddwyrain Asia. Roedd masnach hefyd rhwng India ac Arabia a Dwyrain Affrica. Prif gynheiliaid y fasnach hon oedd yr Arabiaid yn eu dhows, ond roedd yn ddibynnol ar wyntoedd tymhorol y monsŵn cyn gyfnod y llongau modern.