Culfor La Pérouse
Mae Culfor La Pérouse, neu Culfor Sōya, yn gulfor sydd yn gwahanu ynys ddeheuol Rwsiaidd Sakhalin (Karafuto) a rhan mwyaf gogledd o Saipan sef Ynys Hokkaidō, ac yn cysylltu Môr Japan yn y gorllewin gan Môr Okhotsk yn y dwyrain.
Mae'r culfor yn 42 km o hyd a 140m o ddyfnder. Mae rhan gulaf y culfor yn y gorllewin rhwng Rwsia ym Mhentir Krillion a Phentir Soia yn Siapan, sydd hefyd â'r dyfader mwyaf bas yn 60m yn unig.[1] Mae ynys bach creigiog a enwir yn Kamen Opasnosti (sydd yn enw priodol yn Rwsiaidd a olygir "Craig Beryglus") wedi ei leoli yn nyfroedd Rwsiaidd yng ngogledd-ddwyreiniol yr culfor, 12.8 km i'r de-ddwyrain o Bentir Krillion. Mae ynys bychain arall sef Bentenjima, yn gorwedd ger lannau Siapanëaidd y culfor.
Fe elwid y culfor ar ôl Jean-François de Galaup, comte de Lapérouse, a archwiliodd y culfor yn 1787.[2]
Mae dyfroedd tiriogaethol Siapan ymestyn i dair milltir forol i Gulfor La Porous yn unig, yn hytrach na'r deuddeg arferol, yn ôl pob deall i ganiatáu llongau rhyfel a llongau danforrol arfog niwclear Llynges yr Unol Daleithiau i tramwyo'r culfor heb darfu ar waharddiad Siapan ar arfau niwclear ar ei thiriogaeth.[3]
Hanes
golyguRhwng 1848 ac 1892, bu llongau hela morfilod Americanaidd yn pasio trwy'r culfor yn y gwanwyn a'r haf, ar eu ffordd o gynefinnoedd y morfilod Right ym Môr Siapan hyd at Môr Okhotsk i hela'r morfilod Right a morfilod pen bwa.[4] Fe ddrylliwyd llong y David Paddack (352 o dunnelli), o dan gapteiniad Capten Swain, o Nantucket, Massachusetts, UDA oedd ar ei ffordd adref yn llawn cargo yn y culfor yn 1848.[5][6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "https://www.pices.int/publications/scientific_reports/Report12/danchenkov_f.pdf Oceanographic Features of LaPerouse Strait", North Pacific Marine Science Organization, June 1984; retrieved 2 November 2016.
- ↑ THE 17TH AND 18TH CENTURIES Archifwyd 2008-03-25 yn y Peiriant Wayback Error in webarchive template: Check
|url=
value. Empty. - ↑ Kyodo News, "Japan left key straits open for U.S. nukes", Japan Times, June 22, 2009.
- ↑ Eliza Adams, of Fairhaven, Aug. 4, 1848, Old Dartmouth Historical Society (ODHS); Arnolda, of New Bedford, June 17, 1874, ODHS; Cape Horn Pigeon, of New Bedford, July 13-14, 1892, Kendall Whaling Museum.
- ↑ Bowditch, of Warren, Aug. 6, 1848, Nicholson Whaling Collection.
- ↑ Starbuck, Alexander (1878). History of the American Whale Fishery from Its Earliest Inception to the year 1876. Castle. ISBN 1-55521-537-8.