Môr Japan
Môr Japan[1] neu Môr y Dwyrain yw enw'r môr sydd wedi lleoli rhwng Japan, Corea a Rwsia yn Nwyrain Asia. Gan fod y môr wedi cylchu bron yn llwyr gan dir, nid oes yna llanw i gael yno.
![]() | |
Math |
Môr ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Y Cefnfor Tawel ![]() |
Gwlad |
Rwsia, Japan, Gogledd Corea, De Corea, Gweriniaeth Pobl Tsieina ![]() |
Arwynebedd |
978,000 ±1 km², 1,048,950 km² ![]() |
Cyfesurynnau |
40°N 135°E ![]() |
Llednentydd |
Afon Agano, Afon Hyeongsan, Afon Mogami, Afon Shinano, Afon Ishikari, Afon Kurobe, Afon Teshio, Afon Omono, Afon Gōnokawa, Afon Kiyevka, Q2753208, Bol'shaya Khadya, Botchi, Dzhigitovka, Yedinka, Afon Maksimovka, Milogradovka, Q4329925, Sukhodol, Tayëzhnaya, Afon Iwaki, Afon Kuzuryū, Afon Rumoi, Afon Sendai, Afon Shiribetsu, Afon Shiribeshi-Toshibetsu, Afon Oyabe, Q11338320, Q11358304, Nakamura River, Q11381104, Q11394017, Afon Maruyama, Q11398673, Katsuta-gawa, Q11416897, Horikappu River, Q11429012, Q11431886, Q11437475, Q11438532, Amanogawa, Afon Hime, Afon Koyoshi, Afon Tedori, Q11499575, Afon Hii, Q11501614, Q11511261, Afon Gakkō, Q11517367, Q11518238, Q11535001, Afon Kakehashi, Q11548852, Q11558033, Q11566446, Afon Saigawa, Yura river, Afon Machino, Shirakami River, Masuda River, Afon Yoneshiro, Q11611732, Afon Arakawa, Afon Koromo, Afon Aka, Akaishi River, Oirase River, Q11645083, Afon Seki, Afon Abu, Afon Kechi, Afon Tenjin, Lidovka, Margaritovka, Afon U, Afon Takeno, Afon Ohno, Afon Shizuma, Afon Tama, Afon Gamou, Kaban'ya, Amgu, Afon Tumen, Afon Nakdong ![]() |
Hyd |
2,254 cilometr ![]() |
![]() | |
LleoliadGolygu
I'r gogledd o'r môr mae Rwsia a ynys Sakhalin; i'r gorllewin, De a Gogledd Corea. i'r dwyrain, mae' ynysoedd Hokkaidō, Honshū a Kyūshū yn Japan.
Mae'r môr yn mesur 3,742 medr o dan lefel y môr yn y man mwyaf dwfn. Ar gyfartaledd, dyfnder y môr yw 1,753 medr.
EconomiGolygu
Mae llawer o bysgod i gael yna, sydd yn gwneud pysgota yn bwysig iawn. Mae yna hefyd fineralau i'w gael ac mae yna sôn am nwy naturiol a petroliwm hefyd. Ar ôl i economiau gwledydd dwyrain Asia dyfu, mae'r môr wedi dod yn bwysig i fasnach hefyd.
Dadl dros yr enwGolygu
Er bod yr enw Môr Japan (Japaneg: 日本海 nihonkai) yn cael ei ddefnyddio i enwi'r môr mewn rhan fwyaf o wledydd, mae De a Gogledd Corea yn gofyn am enw gwahanol. Mae De Corea yn dadlau mai Môr y Dwyrain dylai'r enw fod (Ar ôl yr enw Coreeg, 동해 Donghae) ac mae Gogledd Corea yn ffafrio Môr Dwyrain Corea (Coreeg: 조선동해 Chosŏn Tonghae). Maent yn dadlau mai hen enw am y môr oedd Môr Corea a fe newidwyd yr enw gan Ymerodraeth Japan pan roedd Corea o dan eu rheolaeth yn yr 20g gynnar. O achos i'r gwrthwynebiad o wledydd Corea, mae rhai cyhoeddwyr Saesneg yn galw'r môr yn "Sea of Japan (East Sea)".
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 106.