Mae Culfor Yenisei a'i hynysigau'n perthyn i ranbarth weinyddol Krasnoyarsk Krai o Ffederasiwn Rwsia ac yn rhan o Warchodfa Natur Wladwriaeth Fawr yr Arctig, y warchodfa natur fwyaf yn Rwsia.

Culfor Yenisei
Mathbae Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMôr Kara Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Cyfesurynnau72.3°N 80.5°E Edit this on Wikidata
Map

Daearyddiaeth

golygu

Mae Culfor Yenisei yn cael ei ffurfio drwy i'r afon ehangu i gyfartaledd o 50 km (31 mi) hyd at 250 km (160 mi) yn fras mewn cyfeiriad o'r gogledd i'r de, rhwng lledred o 70° 30' N yn yr ardal o amgylch anheddiad Munguy, i'r gogledd o Dudinka. Mae'r rhanbarth gyfan o Îs-Yenisei yn llwm a'r boblogaeth yn denau, ac mae'r anheddiadau wedi eu hadeiladu ar ddaear rew-parhaol. Nid oes unrhyw lystyfiant ac eithrio mwsoglau, cennau a rhai glaswellt. Mae dyfroedd arfordirol yn gynefinoedd ar gyfer morfilod beluga.

Dyfnder mwyaf Culfor Yenisei yw 63 m (208 tr).

Lleolir aber Culfor Yenisei  yn fras yn 72° 30' N, yn ardal  Ynys Sibiryakov, yn y Môr Kara.

Ynysoedd

golygu
  • Mae gan yr Yenisei rhai ynysoedd isel, gwastad tuag at y than ddeheuol, sef  Ynysoedd Brekhovsky  (Бреховские острова) 70°30′N 82°45′E / 70.500°N 82.750°E / 70.500; 82.750. Safent lle mae'r afon yn llifo i'r aber. Mae llynnoedd a chorsydd yn amgylchynu'r ardal, lle gwêl nifer o afonnydd llai'n llifo o'r twndra ar draws y wlypdir i fansn yr Yenisei.
  • Yn fwy tea's gogledd mae'r Yenisei'n ehangu i ddod yn ehangder bras. Mae'r dŵr yn troi'n hallt yma. Mae hair ynys bychain bron iawn yng nghanol y culler, yy  Ynysoedd Bolshoi Korsakovsky  (острова Большой Корсаковский). Mae'r ynys fwyaf yn 4 km (2.5 mi) o hyd a 1.2 km (0.75 mi) o lêd. 72°17′N 81°01′E / 72.283°N 81.017°E / 72.283; 81.017. Mae Ynys Burnyy wedi ei lleoli yngnghanol y culfor. Ynys Chaishnyy yw'r agosaf i'r lan.

Hinsawdd

golygu

Mae patrwm tywydd yr ardal yn llym, gyda gaeafau difrifol a stormydd a gwyntoedd cryfion ac aml. Mae aber yr Afon Yenisei'n rhewi am gyfnod o naw mis y flwyddyn, a hyd yn oed yn yr haf, nid yw byth yn hollo rhyme o new a llîf-rew. Yn ystod y gaeaf bydd môr-lwybrau'n cael eu cadw'n agored gan longau torri rhew.

Darllen pellach

golygu

Colin Thubron, In Siberia.

Cyfeiriadau

golygu