Cultúrlann Aonach Mhacha
Mae Aonach Mhacha (Cynulliad Macha) hefyd Cultúrlann Aonach Mhacha neu'n aml Cultúrlann Armagh yn ganolfan ddiwylliannol i hybu'r iaith Wyddeleg yn ninas Ard Mhacha yng Ngogledd Iwerddon. Mae wedi ei seilio ar y Cultúrlann gyntaf, sef Cultúrlann McAdam Ó Fiaich sydd ar y Falls Road, yng ngorllewin dinas Belffast, ardal sy'n cael ei frandio'n gynyddol fel Cwarter Gaeltacht, Belffast.[1] Agorwyd yn 2020.
Enghraifft o'r canlynol | canolfan gymunedol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 6 Mawrth 2020 |
Lleoliad | Armagh |
Gwladwriaeth | Gogledd Iwerddon |
Hanes
golyguMae Aonach Mhacha wedi’i leoli ar safle’r hen orsaf dân yng nghanol hanesyddol dinas Ard Mhacha (Armagh) ac fe’i hagorwyd ym mis Mawrth 2020 fel canolfan menter iaith a diwylliant Gwyddeleg. Mae Aonach Mhacha ("Cynulliad Macha"), wedi'i enwi ar ôl man lle daeth pobl ynghyd yn yr hen amser i rannu syniadau, masnachu a gwneud cytundebau. Mae Aonach Mhacha yn arbennig gan fod sôn amdano mewn ysgrifau Cristnogol cynnar a hefyd yn y chwedlau Gaeleg cyn-Gristnogol.
Mae yno i ddiwallu a thyfu'r boblogaeth sy'n siarad Gwyddeleg. Mae mwy na 6,000 o blant wedi cofrestru mewn addysg cyfrwng Gwyddeleg yng Ngogledd Iwerddon. Yn Swydd Armagh ceir 8 cyn-ysgol, 4 ysgol gynradd ac uned ail lefel cyfrwng Gwyddeleg, Coleg Caitríona, yn Ninas Armagh.[1]
Agorwyd y ganolfan yn swyddogol ar 6 Mawrth 2020 ar gost o £2.3 miliwn gan gynnwys £1.2 o gronfa Adran Cymunedau Cynulliad Gogledd Iwerddon. Roedd agor y ganolfan yn cyd-fynd â Seachtain na Gaeilge, sef "wythnos y Wyddeleg" - cyfres o ddigwyddiadau blynyddol a gynhelir dan nawdd Conradh na Gaeilge a sefydliadau eraill er mwyn hyrwyddo'r iaith Wyddeleg ar draws Iwerddon.[2]
Ym mis Hydref 2021 bu i'r ganolfan lwyfannu ei drama gyntaf. Roedd yn ddrama Wyddeleg ei hiaith gydag is-deitlau Saesneg am y Gaeltacht ddinesig a sefydlwyd yn ninas Belffast yn 1969 - yr sydd wedi tyfu maes o law i fod yn sail ar gyfer y Cwarter Gaeltacht sy'n cael ei brandio yn Belffast. Llwyfanwyd Is Iomaí Rud a Tharla ("Mae Llawer o Bethau Wedi Digwydd") gan Nuala Ní Néill ar 9 Hydref ac mae'n adrodd hanesyn un cwpl ifanc wrth iddynt syrthio mewn cariad, priodi a dechrau eu breuddwyd o fagu eu teulu trwy Wyddeleg a dod yn rhan o'r Gaeltacht newydd, ddinesig, a sefydlwyd yn Shaw’s Road, Belffast yn 1969.[3]
Lleoliad
golyguMae Aonach Mhacha wedi ei lleoli ychydig oddi ar canol dinas Armagh. Ei bwriad yw adfywio rhan adfeiliedig o'r ddinas a bydd yn datblygu ymhellach y coridor diwylliannol rhwng y Shambles a ‘Cwarter y Gadeirlan’ neu ‘Hen Dref’, gan wneud yr ardal yn fwy diogel ac yn fwy deniadol i drigolion, ymwelwyr a thwristiaid tra hefyd yn rhoi hwb i’r ardal. economi leol drwy gynhyrchu cwsmeriaid lleol megis bwytai a lleoliadau trwyddedig a gaiff eu contractio i ddarparu gwasanaethau i’r ganolfan yn ystod gwyliau, cyngherddau, cynadleddau a gweithgareddau eraill.
Bydd prosiectau addysgol, celfyddydau creadigol, adloniadol a datblygu cymunedol hefyd yn cael eu denu i'r lleoliad trwy gydol y flwyddyn.[1]
Adnoddau a llywodraethiant
golyguMae'r ganolfan yn cynnwys siop, man perfformio fechan, neuadd, swyddfeydd a desg-dros-dro i'w llogi.
Mae'r holl elw a gynhyrchir gan weithgareddau masnachu Aonach Mhacha yn cael ei ail-fuddsoddi yng nghelfyddydau Aonach Mhacha ac mewn mentrau diwylliannol, cymdeithasol, celfyddydol, addysgol, hyfforddiant a chyflogaeth ar gyfer ardal Armagh.[1]
Gweler hefyd
golygu- Cultúrlann McAdam Ó Fiaich - dinas Belffast
- Cultúrlann Uí Chanáin - dinas Derri
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 "Cultúrlann Armagh". Aonach Mhacha. 1 Mehefin 2022.
- ↑ "State of the Art Irish language centre opens its doors in Armagh". Adran Cymunedau Llywodraeth Gogledd Iwerddon. 6 Mawrth 2020.
- ↑ "Irish language play on first urban Gaeltacht to be staged in Armagh cultural centre". Gwefan newyddion Armagh i. 21 Medi 2021.