Cultúrlann McAdam Ó Fiaich
Mae Cultúrlann McAdam Ó Fiaich (neu fel rheol ar lafar yn Wyddeleg, An Chultúrlann neu heb y treiglad, Cultúrlann) yn ganolfan ddiwylliannol Wyddeleg yn y Cwarter Gaeltacht (An Cheathrú Ghaeltachta) ac wedi'i lleoli ar Falls Road, Belffast. Wedi'i hagor ym 1991, cafodd y ganolfan ei hadnewyddu yn 2010 ac fe'i hagorwyd y flwyddyn ganlynol gan Arlywydd Iwerddon ar y pryd, Mary McAleese.
Enghraifft o'r canlynol | adeilad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1991 |
Gwladwriaeth | Gogledd Iwerddon |
Gwefan | http://www.culturlann.ie/ |
Mae'r ganolfan yn gartref i oriel gelf a enwyd ar ôl yr artist lleol Gerard Dillon, theatr, bwyty, siop lyfrau, swyddfeydd ac ystafelloedd cynadledda. Yn 2011, amcangyfrifwyd bod y ganolfan yn derbyn dros 80,000 o ymwelwyr y flwyddyn.[1]
Hanes
golyguSefydlwyd Cultúrlann McAdam Ó Fiaich yn 1991 ar ôl prynu Eglwys Bresbyteraidd Broadway ar Falls Road, Belfast. Mae wedi'i henwi ar ôl y gŵr busnes Presbyteraidd o'r 19g a'r Diwygiwr Gwyddeleg, Robert Shipboy McAdam, ac ysgolhaig Gwyddeleg yr 20g, Cardinal Tomás Ó Fiaich. Roedd Robert Shipboy McAdam, 1808-1895, yn Brotestant ac yn un o'r Presbyteriaid a ddechreuodd ymddiddori yn yr iaith Wyddeleg yn Ulster yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu'r Cardinal Tomás Ó Fiaich (1923-1990) yn Archesgob Esgobaeth Armagh ac yn Archesgob yr Eglwys Gatholig yn Iwerddon gyfan o 1978 hyd ei farwolaeth. Ysgolhaig Gwyddelig oedd Tomás Ó Fiaich hefyd, a golygodd gerddi Art Mhic Chumhaigh.[1]
Sefydlodd y cyd-sylfaenydd, Gearóid Ó Cairealláin, Raidió Fáilte a darlledodd o'r adeilad ac Aisling Ghéar, y grŵp cynhyrchu theatr breswyl.[2] Roedd An Chultúrlann hefyd yn gartref i Coláiste Feirste, ysgol uwchradd cyfrwng Gwyddeleg gyntaf Gogledd Iwerddon gyda'r actifydd Fergus O'Hare yn brifathro. Dechreuodd yr ysgol gyda naw o ddisgyblion.,[3] cyn i'r ysgol symud i'r Beech Hill House gerllaw, a oedd gynt yn eiddo i'r teulu Riddel.
Yn 2010, cyhoeddodd An Chultúrlann raglen adnewyddu sylweddol wedi'i hariannu gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Celfyddydau a Hamdden, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, Cronfa Ryngwladol Iwerddon, Bwrdd Croeso Gogledd Iwerddon a'r Adran Datblygiad Cymdeithasol.[4]
2011 - presennol
golyguAil-agorwyd y Cultúrlann McAdam Ó Fiaich ar ei newydd wedd gan arlywydd Iwerddon Mary McAleese ar 19 Medi 2011,[5] i ddathlu 20 mlynedd ers agor y ganolfan. Costiodd yr estyniad a'r gwaith adnewyddu £1.9miliwn ac roedd yn cynnwys adeiladu gofod arddangos rhyngweithiol ac oriel gelf, a enwyd ar ôl yr artist lleol Gerard Dillon.[6] Adnewyddwyd hefyd An Ceathrú Póilí ("y pedwerydd heddwas", sy'n gyfeiriad smala at nofel enwog gan y Gwyddel, Flann O'Brien, The Third Policeman[7]), siop lyfrau Gwyddeleg o fewn y ganolfan a Bia, ("bwyd") y bwyty.
Darlledodd BBC Two Northern Ireland raglen ddogfen ar 12 Rhagfyr 2011 i ddathlu'r ailagoriad.[1]
Cyfleusterau
golyguMae tri llawr i adeilad y Cultúrlann. Ar y llawr cyntaf mae swyddfa'r derbynnydd yn ogystal â'r siop lyfrau An Cheathrú Póilí a'r bwyty. Ar yr ail lawr mae'r ystafelloedd gweithdy, y theatr a'r oriel. Ar y trydydd llawr, unwaith eto, mae swyddfeydd y cwmnïau a’r sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn y Diwylliant.
Trefnir dosbarthiadau Gwyddeleg yn yr ystafelloedd gweithdy, a chânt eu defnyddio hefyd ar gyfer gweithgareddau cerddoriaeth a chelf i blant ac oedolion. Mae Comhluadar, y grŵp cefnogi teuluoedd Gwyddeleg, yn cyfarfod unwaith y mis yn y gweithdai, er mwyn i'r plant gael hwyl a chael cwmni trwy gyfrwng y Wyddeleg. Ar ben hynny, daw Cór Loch Lao ("Côr Loch Lao", sef y llyn neu foryd a elwir hefyd yn Saesneg yn Belfast Lough) a’r Cylch Canu wedyn i ymarfer eu cerddoriaeth. Sefydlwyd Cór Loch Lao yn y Culturlann yn 2001, a chyhoeddwyd y ddau gasgliad o Ceolta Gael gan Dr. Mánas Ó Baoill., sef cyfarwyddwr y côr. Mae'r Cylch Canu yn gylch canu anffurfiol sy'n arbenigo mewn caneuon Gwyddelig brodorol.
Canolfan ymgynnull
golyguGwelir pwysigrwydd ehangach y Cultúrlann i fywyd ieithyddol a gwleidyddol y gymuned Wyddeleg yn ninas Belffast a thu hwnt, wrth iddi ddod yn fan ymgynnull a chychwyn ar gyfer rali enfawr dros Ddeddf Iaith Wyddeleg yn 2022. Ar 21 Mai 2022 cafwyd gorymdaith a alwyd yn An Lá Dearg ("y dydd coch") o hyd at 17,000 o bobl drwy strydoedd Belfast yn galw Acht Anois! ("Deddf Nawr"). Trefnwyd y rali gan An Dream Dearg ("y criw/tyrfa coch") a cafwyd mynychwyr ar hyd Iwerddon yn teithio i'r digwyddiad.[8][9]
Ysbrydoliaeth
golyguBu i sefydlu'r Culturlann yn ninas Béal Feirste fod yn ysbrydoliaeth a themplad i culturlannau eraill yng ngogledd Iwerddon:
- Cultúrlann Uí Chanáin - dinas Derri
- Cultúrlann Aonach Mhacha - dinas Ard Mhacha
Gweler hefyd
golyguDolenni
golygu- An Chultúrlann – Gwefan swyddogol
- An Chultúrlann – Tudalen Facebook
- Bia Archifwyd 2021-09-23 yn y Peiriant Wayback – bwyty
- An Ceathrú Póilí – siop lyfrau
- Cultúrlann McAdam Ó Fiaich | Cultural, Creative, Meeting Place | Belfast ffilmig hyrwyddo
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "An Chultúrlann, Monday at 10 pm on BBC Two NI" (yn Saesneg). Northern Ireland Screen. 8 Rhagfyr 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Hydref 2016. Cyrchwyd 30 Hydref 2016.
- ↑ "The Wheelchair Monologues". Cedar Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Hydref 2016. Cyrchwyd 30 October 2016.
- ↑ "History of Irish medium education". Comhairle na Gaelscolaíochta. Cyrchwyd 30 Hydref 2016.
- ↑ "Belfast's Irish language community to benefit from new facilities at An Chulturlann" (yn Saesneg). Arts Council of Northern Ireland. 25 Tachwedd 2010. Cyrchwyd 20 Hydref 2016.
- ↑ "President McAleese to open new extension of An Chultúrlann". Comhdháil Náisiúnta na Gaeilge. Cyrchwyd 30 October 2016.[dolen farw]
- ↑ "Belfast's Irish Language hub reveals its £1.9 million facelift". International Fund for Ireland. 19 September 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 October 2016. Cyrchwyd 30 October 2016.
- ↑ "The Third Policeman by Flann O'Brien: an expert investigation". The Irish Times. 25 Awst 2015.
- ↑ "An Lá Dearg 2022 Cultúrlann McAdam Ó Fiaich heading to Belfast City Hall". Gwefan Conradh na Gaeilge. 1 Mai 2022.
- ↑ "Troi Bheul Feirste yn goch tros Ddeddf Iaith Wyddeleg newydd". Golwg360. 21 Mai 2022.