Math o gyffyrddiad gyda'r gwefusau yw cusan neu sws.

Cusan, gan William-Adolphe Bouguereau.

Does dim cytundeb ymysg anthropolegwyr ynglŷn ag os yw cusanu yn ymddygiad greddfol, neu ymddygiad a ddysgir. Mae amrywiad mawr rhwng gwahanol ddiwylliannau o ran natur ac arwyddocád cusanu. Yn y Gorllewin, mae'n fynegiad o anwyldeb, fel arfer. Er enghraifft, fe all fod yn gyfarchiad neu'n ystym ffarwelio rhwng aelodau o deulu neu gyfeillion agos.

Cusanu serchus

golygu
 
Cusan

Yn aml, mae cusan yn fynegiad o ysu rhywiol, neu serch rhamantaidd. Yn aml, mae dau berson yn cusanu'i gilydd ar y gwefusau, yn hirach ac yn fwy dwys na fyddai'r arfer mewn cusan cyfeillgar. Fe all y par agor eu cegau mewn cusan mwy angerddol, a symud eu tafodau i gegau'i gilydd, neu fod y naill yn sugno ar un o wefusau'r llall. Mewn cud-destun rhywiol, fe all pobl gusanu gwahanol rannau o'u cyrff.

Cusanu yn y Beibl

golygu

Ceir sawl enghraiftt o gusanu yn y Beibl. Mae Jwdas yn cusanu'r Iesu wrth iddo ei fradychu, yn ôl yr Efengylau. Cusanodd merch, a gysylltir yn draddodiadol â Mair Fadlen yn nhraddodiad Cristnogol y Gorllewin, draed Crist ar ôl eu golchi â'i dagrau ei hun (Yr Efengyl yn ôl Luc, 7:36-38).

 
Il bacio gan Francesco Hayez (1791–1882).
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am rywioldeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Chwiliwch am cusan
yn Wiciadur.