Plygion cnodiog yn ffurfio ymylon uchaf ac isaf y geg ddynol yw gwefusau (unigol: gwefus) sydd wedi'u lleoli ar yr wyneb, o gwmpas agorfa y geg ac o flaen y dannedd. Maent yn ddarnau hyblyg, symudol ac yn rhan hanfodol o yfed, siarad a chusanu. Oddi mewn i'r wefus, ceir haen denau o groen, gwaed, cyhyrau a nerfau. Gelwir gwefus yr anifail yn wefl.

Gwefus
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathrhan o geg, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan oorgan lleferydd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysgwefus isaf, gwefus uchaf Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gwefusau merch
Gwefusau babi
Dolur annwyd ar wefus isaf dyn

Stwythur

golygu

Gelwir y wefus uchaf yn Lladin yn labium superius oris a'r wefus isaf yn labium inferius oris.[1][2] Gelwir ymyl y wefus yn ‘ymyl fermiliwn’ neu'n ‘fwa Ciwpid’ mewn sawl iaith, sy'n cysylltu'r gwefusau gyda serch.[3][4][5] Procheilon neu'n tuberculum labii superioris yw rhan canol y wefus uchaf, neu ‘twbercwl gwefusol’.[6] Mae'r rhan canol un, sy'n pannwl fertigol, yn cael ei alw'n ‘ffiltrwm’.[7]

Mae croen y gwefusau'n denau o'i gymharu â chroen yr wyneb, ac fe'i gwnaed o 3 - 5 haen o gelloedd yn hytrach na hyd at 16 haen fel y ceir ar y wyneb ddynol. Ymddengys y gwythiennau cochion drwy groen y gwefusau, sy'n rhoi iddynt eu lliw. Goleuaf yw croen yr wyneb, cochaf yw'r gwefusau gan fod ynddynt lai o felanin. Y wefus yw'r rhan honno sy'n ffin rhwng croen allanol y corff a philen fwcaidd mewnol y corff.

Ni cheir blew ar groen y gwefusau na chwarennau chwys ychwaith. Oherwydd hyn, nid ydynt yn cael eu hamddiffyn gan haenau o olew a chwys - sy'n hanfodol i gadw'r croen wedi'i iro, yn llyfn, i wrthsefyll pathogenau ac i reoli tymheredd. Canylyniad y diffyg hwn yw fod y gwefusau'n sychu ac yn cracio'n hawdd.

Rhannau nwydus

golygu
 
Rock Hudson a Julie Andrews yn cusannu yn y ffilm Darling Lilli (1968)

Oherwydd y nifer fawr o nerfau, mae'r gwefusau'n sensitif i deimlad ac yn cael eu edfnyddio i gusannu ac fel arfer, ceir teimlad braf o wneud hynny. Y mwyaf o estrogen sydd gan merch yn ei chorff, y mwyaf yw ei llygaid a'i gwefusau, a chyfrifir hyn yn atyniadol gan ei fod yn ei gwneud yn fwy benywaidd. Oherwydd hyn, ac er mwyn denu cymar neu wneud ei hun yn fwy rhywiol, mae merch yn eu chwyddo (o ran maint a lliw) gyda minlliw.

Defnyddir y gwefusau i sugno er mwyn rhoi pleser ac er mwyn yfed; maent yn angenrheidiol i fabi sugno teth ei fam.

Geirdarddiad

golygu

Ymddengys y gair mewn Cernyweg a Llydaweg fel gweus a gweuz ac mae'n tarddu o'r Frythoneg *webussu, yr ail elfen fel yn y gair bus ‘gwefus’ yng Ngaeleg yr Alban a busóc ‘cusan’ yn Hen Wyddeleg.[8] Ymddengys am y tro cyntaf mewn Cymraeg ysgrifenedig yn y Llyfr Du o'r Waun: 'ar deuegat... ar duygueus' a thua'r un cyfnod ym Mrut Dingestow: 'y rei a werynant gvywon weussoed'.

Mewn llenyddiaeth

golygu

Canodd Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan (c.1485-1553):

Gwefusau fel mannau mêl,
Gwrid brig y cerrig cwrel.

Galeri

golygu

Ymadroddion

golygu
  • gwefus yng ngwefus
  • gwefus bur
  • gwefus fylchog
  • gwefus y fuwch: cowslip

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "mediLexicon: "Labium superius oris"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-17. Cyrchwyd 2015-02-01.
  2. "mediLexicon: "Labium inferius oris"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-17. Cyrchwyd 2015-02-01.
  3. "mediLexicon: "Vermilion border"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-17. Cyrchwyd 2015-02-01.
  4. "mediLexicon: "The Vermilion Zone"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-17. Cyrchwyd 2015-02-01.
  5. "mediLexicon: "Cupid's bow"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-17. Cyrchwyd 2015-02-01.
  6. "mediLexicon: "Tubercle of upper lip"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-17. Cyrchwyd 2015-02-01.
  7. "mediLexicon: "Philtrum"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-17. Cyrchwyd 2015-02-01.
  8. Geiriadur Prifysgol Cymru Ar-lein; adalwyd 1 Chwefror 2015
Chwiliwch am gwefus
yn Wiciadur.