Dinas yn nhalaith Odisha, India yw Cuttack (Hindi: कटक, ynganer Katak, o'r gair Sansgrit kataka sy'n golygu 'caer'). Mae'n un o'r dinasoedd hynaf yn India ac yn ganolfan ddiwylliannol a masnachol Odisha. Dyma ail ddinas fwyaf Odisha. Fe'i lleolir ar rimyn o dir sy'n gorwedd rhwng Afon Mahanadi a'i phrif lednant Afon Kathajodi. Poblogaeth: 750,000 (2007).

Cuttack
Mathdinas, dinas fawr, anheddiad dynol Edit this on Wikidata
LL-Q1571 (mar)-Aparna Gondhalekar-कटक.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth606,007 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:30 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCuttack district Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd192.5 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr36 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau20.45°N 85.87°E, 20.46497°N 85.87927°E Edit this on Wikidata
Cod post753001 Edit this on Wikidata
Map
Golygfa yn Cuttack
Teml gysegredig i'r dduwies Smasan Kali, Cuttack

Sefydlwyd Cuttack yn 989 OC a bu'n brifddinas Odisha am fil o flynyddoedd bron, hyd 1947: daeth dinas newydd Bhubaneswar, 20 km i ffwrdd, yn brifddinas yn 1948. Cyfeirir at Cuttack a Bhubaneswar gyda'i gilydd fel "Dinasoedd Gefaill" Odisha. Er iddi golli allan fel safle'r brifddinas, erys Cuttack yn ganolfan hanesyddol y dalaith ac sy'n enwog am ei waith crefft mewn arian, ifori a phres ac am frethynnau wedi'u gweu o sidan a cotwm.

Gorwedd y ddinas ar Briffordd 5, sy'n ei chysylltu gyda Kolkata i'r gogledd a Chennai i'r de. Fe'i gwasanaethir gan rwydwaith o fysus a threnau hefyd.

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.