Kolkata
Dinas anferth yng ngogledd-ddwyrain India, a phrifddinas talaith Gorllewin Bengal, yw Kolkata (( ynganiad ) hen enw tan 2001: Calcutta). Yn ôl cyfrifiad India 2011, Kolkata yw'r seithfed ddinas fwyaf poblog India, gyda phoblogaeth o 4,496,694 (2011)[1] miliwn o drigolion o fewn terfynau'r ddinas, a phoblogaeth o dros 14,112,536 (2011)[2] miliwn o drigolion yn Ardal Fetropolitan Kolkata, sy'n golygu mai hi yw'r drydedd fwyaf yn India. Wedi'i lleoli ar lan ddwyreiniol Afon Hooghly, mae'r ddinas oddeutu 80 cilomedr (50 milltir) i'r gorllewin o'r ffin â Bangladesh.[3] Dyma brif ganolbwynt busnes, masnachol ac ariannol Dwyrain India a phrif borthladd Gogledd-ddwyrain India, yn ogystal â bod ag economi drefol trydydd-fwyaf India.
Math | municipal corporation of West Bengal, mega-ddinas, prifddinas y dalaith, metropolis |
---|---|
Enwyd ar ôl | Kalikata |
Poblogaeth | 4,496,694 |
Pennaeth llywodraeth | Firhad Hakim |
Cylchfa amser | UTC+05:30 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Kolkata district |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 206.08 km² |
Uwch y môr | 9 metr |
Gerllaw | Afon Hooghly |
Cyfesurynnau | 22.572672°N 88.363882°E |
Cod post | 700001 |
Pennaeth y Llywodraeth | Firhad Hakim |
Ymhlith Cymry enwog y ddinas mae'r ieithydd William Jones (28 Medi 1746 – 27 Ebrill 1794), mab y mathemategydd bydenwog William Jones (mathemategydd).
Mae Kolkata yn gartref i 9,600 miliwnydd a 4 biliwnydd gyda chyfoeth o dros $ 290 biliwn yn 2017.[4][5]
Yn ôl cyfrifiad India 2011, Kolkata yw'r seithfed ddinas fwyaf poblog India, gyda phoblogaeth o XXX miliwn o drigolion o fewn terfynau'r ddinas, a phoblogaeth o dros 14,112,536 (2011)[2] miliwn o drigolion yn Ardal Fetropolitan Kolkata, sy'n golygu mai hi yw'r drydedd fwyaf yn India. Porthladd Kolkata yw porthladd hynaf India a'i hunig borthladd safonol mawr. Gelwir Kolkata yn "brifddinas ddiwylliannol India" oherwydd pensaerniaeth hynafol ac unigryw y ddinas.[6]
Daearyddiaeth
golyguMae'r ddinas yn gorwedd ar lan ddwyreiniol Afon Hooghly (yn swyddogol, nid yw tref anferth Howrah â'i slymiau, ar y lan orllewinol, yn rhan o ddinas Kolkata ei hun).
Drychiad y ddinas yw 1.5–9 m (5-30 tr).[7] Gwlyptir oedd llawer o'r ddinas yn wreiddiol a gafodd ei adennill dros ddegawdau i ddarparu ar gyfer poblogaeth gynyddol.[8] Dynodwyd yr ardaloedd heb eu datblygu, sy'n weddill, a elwir yn Wlyptiroedd Dwyrain Kolkata, yn "wlyptir o bwysigrwydd rhyngwladol" gan Gonfensiwn Ramsar (1975).[9] Yn yr un modd â'r rhan fwyaf o'r Gwastadedd Indo-Gangetig, mae'r pridd a'r dŵr o darddiad llifwaddodol yn bennaf. Mae Kolkata wedi'i lleoli dros "fasn Bengal", basn trydyddol pericratonig.[10]
Hinsawdd
golyguHinsawdd wlyb a sych drofannol sydd gan Kolkata, ac mae wedi'i dynodi'n 'Aw' o dan ddosbarthiad hinsawdd Köppen. Yn ôl adroddiad Rhaglen Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig, mae ei barth gwynt a seiclon yn "risg difrod uchel iawn".
Y tymheredd cymedrig blynyddol yw 26.8 °C (80.2 °F) a'r tymeredd cymedrig misol yw 19-30 °C (66-86 °F). Mae hafau (Mawrth - Mehefin) yn boeth a llaith, gyda thymheredd yn y 30au isel Celsius; yn ystod cyfnodau sych, mae'r tymeredd uchaf weithiau'n uwch na 40 °C (104 °F) ym Mai a Mehefin.[11] Mae'r gaeaf yn para am oddeutu dau fis a hanner, gydag isafbwyntiau tymhorol yn gostwng i 9–11 °C (48-52 °F) yn Rhagfyr a Ionawr. Mai yw'r mis poethaf, gyda'r tymereddau dyddiol yn amrywio rhwng 27-37 °C (81-99 °F); Mae gan Ionawr, y mis oeraf, dymheredd sy'n amrywio o 12-23 °C (54-73 °F). Y tymheredd uchaf a gofnodwyd yw 43.9 °C (111.0 °F), a'r isaf yw 5 °C (41 °F).[11] Mae'r gaeaf yn dywydd ysgafn a chyffyrddus iawn dros y ddinas trwy gydol y tymor hwn. Yn aml, ym mis Ebrill - Mehefin, bydd y ddinas yn cael ei tharo gan law trwm neu sgoliau llychlyd sy'n cael eu dilyn gan stormydd mellt a tharanau neu stormydd gwair, gan ddod â rhyddhad oeri o'r lleithder cyffredinol. Mae'r stormydd taranau hyn yn ddarfudol eu natur, ac fe'u gelwir yn lleol fel kal bôishakhi (কালবৈশাখী), neu "Nor'westers" yn Saesneg.[12]
Glawiad
golyguYm Mehefin a Medi mae'r Monswn yn chwipio gryfaf gan arllwys y rhan fwyaf o'i lawiad blynyddol o tua 1,850 mm (73 i modfedd). Mae'r cyfanswm glawiad misol uchaf yn digwydd yng Ngorffennaf ac Awst.[13] Yn ystod y misoedd hyn yn aml mae glaw yngoblyn o drwm, am ddyddiau, ac yn dod â rhuthr bywyd i ben, i drigolion y ddinas. Mae'r ddinas yn derbyn 2,107 awr o heulwen y flwyddyn, gyda'r rhan fwyaf o olau haul yn digwydd yn Ebrill. Mae Kolkata wedi cael ei daro gan sawl seiclon; mae'r gwaethaf o'r rhain yn cynnwys seiclonau 1737 a 1864 a laddodd filoedd o bobl.[14] Yn fwy diweddar, achosodd Seiclon Aila yn 2009 a Seiclon Amphan yn 2020 ddifrod eang i Kolkata trwy ddod â gwyntoedd trychinebus a glawiad cenllif.[15]
Llygredd
golyguMae llygredd yn bryder mawr yn Kolkata. O 2008 ymlaen, roedd crynodiad blynyddol sylffwr deuocsid a nitrogen deuocsid o fewn safonau ansawdd aer amgylchynol cenedlaethol India, ond roedd lefelau deunydd gronynnol crog yn uchel, gangynyddu am bum mlynedd yn olynol, gan achosi mwrllwch a smog.[16][17] Mae llygredd aer difrifol yn y ddinas wedi achosi cynnydd mewn anhwylderau anadlol sy'n gysylltiedig â llygredd, fel canser yr ysgyfaint.[18]
Hanes
golyguYn ôl safonau India, nid yw Kolkata'n ddinas hen iawn. Cafodd ei sefydlu tua 300 mlynedd yn ôl gan y Prydeinwyr. Hyd 1911 Calcutta oedd prifddinas yr India Brydeinig. Yn 1686 rhoddodd y Prydeinwyr y gorau i fyw yn ei bost masnachu yn Hooghly, 36 km i fyny'r afon, a symudasant i dri phentref bach - Sutanati, Govindpur a Kalikata. Y pentref olaf a roddodd ei enw i'r ddinas. Yn 1696 codwyd caer fach ar safle BBD Bagh ac yn 1698 rhoddodd ŵyr Aurangzeb ganiatâd swyddogol i'r Prydeinwyr fyw yno.
Tyfodd y pentrefi'n dref bur sylweddol fesul dipyn. Yn 1756 ymosododd Nawab Murshidabad ar y dref. Dihangodd y mwyafrif o'r trigolion Prydeinig ond daliwyd rhai ohonynt a'u carcharu mewn selar ddanddaear lle bu farw nifer dros nos; dyma'r Twll Du Calcutta enwog. Yn 1757 cipiodd Clive o India y dref yn ôl a threfniwyd heddwch â'r nawab. Yn ddiweddarqch yn yr un flwyddyn cododd Siraj-ud-daula yn erbyn y Prydeinwyr ond gorchfygwyd ef a'i gynghreiriaid Ffrengig ym mrwydr dynghedfennol Plassey. Mewn canlyniad codwy caer newydd, gryfach o lawer, a gwnaethpwyd Calcutta'n brifddinas India.
Tyfodd yn gyflym yn hanner cyntaf y 19g. Ym mlynyddoedd olaf y Raj roedd Calcutta yn ganolfan bwysig i ymyrchwyr dros annibyniaeth i India ac felly symudwyd y brifddinas i Ddelhi. Ar ôl annibyniaeth daeth nifer o ffoadurion o ddwyrain Bengal (Bangladesh heddiw) i Galcutta. Mae nifer o bobl o'r cefn gwlad yn symud i'r ddinas bob blwyddyn hefyd ac mae'r boblogaeth yn cynyddu mewn canlyniad. Erbyn heddiw mae gor-boblogaeth yn broblem anferth yn y ddinas.
"Kolkata" fu'r enw mewn Bengaleg erioed, ond yn 2001 newidiwyd yr enw yn swyddogol o "Calcutta" i "Kolkata".
Atyniadau
golyguYmhlith atyniadau Kolkata gellid crybwyll Amgueddfa India a Teml Kalighat, Pont Howrah, y Maidan (parc), y Gerddi Botanegol a'r Farchnad Newydd. Yng nghanol y ddinas rhan o'r awyrgylch yw'r hen adeiladau crand o gyfnod y Raj, er enghraifft swyddfeydd llywodraeth Gorllewin Bengal ar sgwâr hanesyddol BBD Bagh (Sgwâr Dalhousie).
Enwogion
golygu- William Jones, ieithydd
- Rabindranath Tagore
- Y Fam Teresa
Cyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.kmcgov.in/KMCPortal/jsp/KolkataStatistics.jsp.
- ↑ 2.0 2.1 http://censusindia.gov.in/2011-prov-results/paper2/data_files/india2/Million_Plus_UAs_Cities_2011.pdf.
- ↑ "Better Integrated Transport Modes will Help Reinvent Kolkata". World Bank. 20 April 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mawrth 2019. Cyrchwyd 9 Chwefror 2020.
- ↑ "Kolkata has 9,600 millionaires, $290 billion in total wealth". The Times of India. 22 Chwefror 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Chwefror 2017. Cyrchwyd 22 Chwefror 2017.
- ↑ "Mumbai richest Indian city with total wealth of $820 billion, Delhi comes second: Report". The Indian Express. 27 Chwefror 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Chwefror 2017. Cyrchwyd 28 Chwefror 2017.
- ↑ —"India: Calcutta, the capital of culture-Telegraph". telegraph.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Ionawr 2016. Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2016.
—"Kolkata remains cultural capital of India: Amitabh Bachchan – Latest News & Updates at Daily News & Analysis". 10 Tachwedd 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mehefin 2017. Cyrchwyd 25 Tachwedd 2016.
—"Foundation of Kolkata Museum of Modern Art laid". business-standard.com. Press Trust of India. 14 Tachwedd 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mawrth 2016. Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2016.
—Reeves, Philip (5 April 2007). "Calcutta: habitat of the Indian intellectual". National Public Radio. Cyrchwyd 29 Ionawr 2012.
—Noble, Allen and Frank Costa; Ashok Dutt; Robert Kent (1990). Regional development and planning for the 21st century : new priorities, new philosophies. Ashgate Pub Ltd. tt. 282, 396. ISBN 978-1-84014-800-8. - ↑ "PIA01844: space radar image of Calcutta, West Bengal, India". NASA. 15 Ebrill 1999. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Ionawr 2012. Cyrchwyd 15 Ionawr 2012.
- ↑ Chatterjee, S. N. (2008). Water Resources, Conservation and Management. New Delhi: Atlantic Publishers and Distributors. t. 33. ISBN 978-81-269-0868-4.
- ↑ Roy Chadhuri, S.; Thakur, A. R. (25 Gorffennaf 2006). "Microbial genetic resource mapping of East Calcutta wetlands". Current Science 91 (2): 212–17.
- ↑ Das, Diptendra; Chattopadhyay, B. C. (19 Rhagfyr 2009). Characterization of soil over Kolkata municipal area (PDF). Indian Geotechnical Conference. 1. Guntur, India. tt. 11–12. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 6 Tachwedd 2013. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2012.
- ↑ 11.0 11.1 "Weatherbase entry for Kolkata". Canty and Associates LLC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Medi 2011. Cyrchwyd 26 Ebrill 2006.
- ↑ "kal Baisakhi". Glossary of Meteorology. American Meteorological Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Awst 2006. Cyrchwyd 5 Medi 2006.
- ↑ Khichar, M. L.; Niwas, R. (14 Gorffennaf 2003). "Know your monsoon". The Tribune. Chandigarh, India. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mehefin 2007. Cyrchwyd 9 Mehefin 2007.
- ↑ Bilham, Roger (1994). "The 1737 Calcutta earthquake and cyclone evaluated". Bulletin of the Seismological Society of America 84 (5): 1650–57. http://cires.colorado.edu/~bilham/gif_images/1737Calcutta.pdf. Adalwyd 20 Gorffennaf 2011.
- ↑ Gastrell, James Eardley; Blanford, Henry Francis (1866). Report on the Calcutta cyclone of the 5th October 1864. Calcutta: O.T. Cutter, Military Orphan Press. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2011.
- ↑ Central Pollution Control Board. "Annual report 2008–2009" (PDF). Ministry of Environment and Forests, Government of India. t. 40. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 26 Ebrill 2012. Cyrchwyd 2 Chwefror 2012.
- ↑ "Smog city chokes & grounds: foul air, moist and smoky". The Telegraph. Kolkata. 30 Hydref 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mehefin 2011. Cyrchwyd 25 Ebrill 2011.
- ↑ Bhaumik, Subir (17 Mai 2007). "Oxygen supplies for India police". BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mehefin 2007. Cyrchwyd 23 Mehefin 2007.
Dolenni allanol
golygu- Cofforaeth Ddinesig Kolkata
- Kolkata City Information spanish Archifwyd 2013-06-07 yn y Peiriant Wayback
- Kolkata City Information Archifwyd 2014-02-01 yn y Peiriant Wayback
- Awdurdod Datblygu Dinesig Kolkata
- Popeth am y ddinas Archifwyd 2005-11-18 yn archive.today
- Llywodraeth Gorllewin Bengal
- Map o'r ddinas[dolen farw]
- Gwybodaeth ymarferol, Map, Dolenni, Lluniau & Ryseitiau bwyd Archifwyd 2007-03-12 yn y Peiriant Wayback
- Y Tywydd heddiw yn Kolkata
- Albym Lluniau gan aelodau o luoedd arfog UDA, 1945 Archifwyd 2008-05-12 yn y Peiriant Wayback
- Lluniau o Calcutta @ Flickr
- Kolkata: Dinas Palasau
- Calcuttaweb: arweiniad cynhwysfawr i'r ddinas
- Calcutta heddiw Archifwyd 2007-05-20 yn y Peiriant Wayback
- Map rhyngweithredol o'r ddinas yn Google Maps API Archifwyd 2007-02-21 yn y Peiriant Wayback