Math o gwch a ddefnyddir ym Mhrydain i hwylio ar gamlesi cul yw cwch camlas. Fel arfer, dydy hi ddim ond rhyw 2.08m o led (6 troedfedd 10 modfedd), ond gall fod hyd at 22m o hyd (72 troeddfed). Mae rhai lociau yn methu derbyn cychod hirach na 18m (60 troedfedd), neu hyd yn oed 12m (40 troeddfed).

Cychod camlas yn Lloegr

Hanes golygu

Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol defnyddiwyd cychod camlas yn bennaf i gludo nwyddau. Roedd y rhai hynaf wedi eu gwneud o bren ac roedd ceffylau yn eu tynnu. Daeth camlesi i fod yn llai pwysig ers y 1830au oherwydd datblygiad y rheilffyrdd, a daeth perchnogion tlawd y cychod i fyw arnynt. Cafodd llawer o'r cychod hyn eu haddurno'n lliwgar, fel arfer gyda lluniau cestyll a rhosod.

Heddiw, defnyddir cychod camlas i fyw arnynt neu i dreulio gwyliau arnynt; y dyddiau hyn fe'u gyrrir gan beiriant diesel. Caiff rhai cychod eu haddurno yr un fath â'r rheini a fodolai fwy na chanrif yn ôl.

Ar hyn o bryd mae tua 48,000 o gychod trwyddedig ar ddyfrffyrdd Prydain (Dyfrffyrdd Prydain, 2004), y mwyafrif ohonynt yn gychod camlas, a thua 5,000 heb eu trwyddeddu ar angorfeydd preifat.