Cwmni Virginia

Cwmni masnachu o Loegr o'r 17eg ganrif

Cwmni masnachu oedd Cwmni Virginia (Saesneg: Virginia Company) a sefydlwyd trwy siarter frenhinol gan Iago, brenin Lloegr (I) a'r Alban (VI) yn Ebrill 1606 gyda'r nod o drefedigaethu arfordir dwyreiniol Gogledd America. Yn gywir, dwy fenter ydoedd a sefydlwyd dan yr un telerau i weithredu mewn parthau gwahanol: Cwmni Virginia Llundain rhwng lledredau 34° and 41° G, a Chwmni Virginia Plymouth rhwng lledredau 38° a 45° G. Rhennid y parth rhwng lledredau 38° a 41° G, felly, gan y ddau gwmni. Fel y mae'r enwau yn awgrymu, cyfranddalwyr Llundeinig oedd gan yr un cwmni a chyfranddalwyr o Plymouth gan y llall.

Cwmni Virginia
Enghraifft o'r canlynolcwmni cyd-stoc, trading company, chartered company Edit this on Wikidata
Daeth i ben24 Mai 1624 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu10 Ebrill 1606 Edit this on Wikidata
SylfaenyddIago VI yr Alban a I Lloegr Edit this on Wikidata
Cynnyrchcash crop, lumber, Tybaco Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map o arfordir dwyreiniol Gogledd America sydd yn dangos parthau Cwmni Plymouth (ffiniau gwyrdd) a Chwmni Llundain (ffiniau coch).