Cwpan Her yr Alban

cwpan pêl-droed i glybiau is Uwch Gynghrair yr Alban a goreuon Iwerddon, Cymru ac adrannau isaf cenedlaethol Lloegr

Cwpan Her yr Alban,[1][2][3] a adwaenir yn gyffredin fel Scottish League Challenge Cup [4][5] neu gan amlaf fel y Scottish Challenge Cup,[1][2] ac a adwaenir ar hyn o bryd fel Tunnock's Caramel Wafer Challenge Cup am resymau noddi, yw cystadleuaeth cwpan pêl-droed cynghreiriau pêl-droed yr Alban (SPFL) islaw Uwch Gynghrair yr Alban. Mae bellach yn cynnwys timau o'r Iwerddon, Cymru a Lloegr.

Scottish Challenge Cup
Founded1990
RegionBaner Yr Alban Yr Alban
 Cymru
 Northern Ireland
 Republic of Ireland
Baner Lloegr Lloegr
Number of teams58 (2018–19)
Current championsRoss County (3ydd teitl)
Most successful club(s)Falkirk (4 titles)
Television broadcastersBBC Alba
Premier Sports
S4C (cynnwys clybiau Cymru)
2019–20

Gofalwch rhag drysu gyda Cwpan yr Alban a'r Scottish League Cup.

Hanes golygu

Fe'i sefydlwyd gan ragflaenydd yn wreiddiol fel cystadleuaeth i'r 28 neu islaw'r lefel yr Premiership ond ychwanegwyd timau o dan lefel SPFL yn 2011-12, a thimau gwadd o'r tu allan i'r Alban yn 2016-17. Ar gyfer tymor 2018–19 roedd 58 o dimau: 30 o'r 3 gynghrair islaw'r Premieship; deuddeg tîm dan-20 o glybiau yr Uwch Gynghrair; pedwar yr un o'r Highland League a'r Lowland League; a dau dîm gwadd o bob un o Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon (NIFL Premiership), Uwch Gynghrair Cymru, National League yn Lloegr, ac Uwch Gynghrair Gwerinaeth Iwerddon.[6]

Cynhaliwyd y gystadleuaeth gyntaf yn ystod tymor 1990–91 fel Cwpan Canmlwyddiant B&Q [1] i ddathlu canmlwyddiant sefydlu'r SFL. Bwriedir iddi fod yn gystadleuaeth unwaith ac am byth ond parhaodd i fod yn gystadleuaeth oherwydd ei phoblogrwydd. Enillydd cyntaf y twrnamaint oedd Dundee F.C., a drechodd Ayr United Falkirk F.C. yw'r tîm mwyaf llwyddiannus yn y twrnamaint, gyda phedwar buddugoliaeth, yn fwyaf diweddar yn 2012. Yr enillydd diweddaraf oedd Ross County, a drechodd Nomadiaid Cei Connah yn rownd derfynol 2019.

Fformat golygu

 
Stadiwm Falkirk, tîm fwyaf llwyddiannus Cwpan Her yr Alban

Mae Cwpan yr Her yn twrnamaint 'knock out'. Mae enillydd pob gêm yn symud ymlaen i'r rownd nesaf ac mae'r collwr yn cael ei ddileu o'r twrnamaint. Mae pob gêm, gan gynnwys y rownd derfynol, yn gêm un cymal. Os na phenderfynwyd ar enillydd clir ar ôl 90 munud o'r amser arferol, caiff 30 munud o amser ychwanegol ei chwarae. Os yw'r sgôr yn dal yn wastad ar ôl amser ychwanegol, yna bydd yr enillydd yn cael ei benderfynu gan giciau cosb. Caiff y rownd derfynol ei chwarae mewn lleoliad niwtral.[7]

Perfformiad Fesul Clwb golygu

 
Logo B&Q, manwerthwr gwaith tŷ, noddwyr cyntaf y twrnament o 1990 hyd at 1995

Dydy'r clybiau mewn italics ddim yn bodoli mwyach.

Performance by club
Clwb Ennill Buddugoliaeth ddiwethaf Ail safle Tro ddiwethaf i golli yn ffeinal Cyfanswm gemau ffeinal
Falkirk 4 2012 0 4
Ross County 3 2019 2 2008 5
Airdrieonians (1878) 3 2001 0 3
Inverness Caledonian Thistle 2 2018 2 2009 4
Queen of the South 2 2013 2 2010 4
Hamilton Academical 2 1992 2 2012 4
Dundee 2 2009 1 1994 3
St Mirren 1 2005 2 2017 3
Alloa Athletic 1 1999 2 2015 3
Dundee United 1 2017 1 1995 2
Rangers 1 2016 1 2014 2
Livingston 1 2015 1 2000 2
Airdrieonians 1 2008 1 2003 2
St Johnstone 1 2007 1 1996 2
Raith Rovers 1 2014 1 1
Stranraer 1 1996 0 1
Stenhousemuir 1 1995 0 1
Ayr United 0 2 1991 2
  Connah's Quay Nomads 0 1 2019 1
Dumbarton 0 1 2018 1
Peterhead 0 1 2016 1
Partick Thistle 0 1 2013 1
Dunfermline Athletic 0 1 2007 1
Clyde 0 1 2006 1
Brechin City 0 1 2002 1
Morton 0 1 1992 1

Nawdd a sylw yn y cyfryngau golygu

Mae Cwpan Her yr Alban wedi cael ei noddi sawl gwaith ers iddo gael ei gyflwyno ym 1990. Mae'r noddwr wedi gallu pennu enw'r gystadleuaeth. Bu pedwar noddwr ers ffurfio'r gystadleuaeth yn ogystal â sawl newid enw o fewn cyfnod pob nawdd.[1] Mae'r gystadleuaeth yn dibynnu ar refeniw a enillwyd o nawdd er ei fod wedi gallu rhedeg heb noddwr dros ddau gyfnod ond bu'n rhaid ei atal am un tymor ym 1998–99 o ganlyniad.

  • 1990-1995: B&Q (Cwpan Canmlwyddiant B&Q (tan 1991) yna Cwpan B&Q)
  • 1995–1998: Dim noddwr
  • 1999–2006: Gwisgi Bell (Cwpan Her Bell (tan 2002) yna Cwpan Bell)
  • 2006-2008: Dim noddwr
  • 2008–2011: MG Alba (Cwpan Her ALBA)
  • Ramsdens 2011–2014 (Cwpan Ramsdens)
  • 2014–2016: Petrofac (Cwpan Hyfforddi Petrofac)
  • 2016–2019: Irn-Bru (Cwpan Irn-Bru)
  • 2019-present: Tunnock's (Cwpan Her Carmel Wafer Tunnock)

Darlledwyd gemau dethol yn fyw ar sianel deledu Gaeleg yr Alban, BBC Alba ers 2008,[8] sy'n cael ei rhedeg ar y cyd gan y cyn noddwr MG Alba a'r BBC. Mae pob rownd derfynol ers rownd derfynol 2008 wedi cael ei darlledu'n fyw ar y sianel [47] ac estynnwyd y trefniant am dair blynedd arall yn 2012 er gwaethaf nawdd MG Alba i'r gystadleuaeth yn 2011. [48] Gydag ehangu'r gystadleuaeth i gynnwys timau o Ogledd Iwerddon a Chymru o 2016 i 2017, cytunwyd ar gytundebau ychwanegol ar gyfer darllediadau gemau byw gyda Premier Sports ac S4C.[6]

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 The Scottish Football League Challenge Cup Final Results, scottishfootballleague.com. Scottish Football League. Retrieved 5 April 2013.
  2. 2.0 2.1 Preview Forfar Athletic Archifwyd 2013-11-01 yn y Peiriant Wayback., dafc.co.uk. Dunfermline Athletic F.C.. 25 July 2012. Retrieved 5 April 2013.
  3. Scottish Football League Challenge Cup, scottish-football-historical-archive.com. Scottish Football Historical Archive. Retrieved 5 April 2013.
  4. Fisher, Stewart. "Beginner's Guide to the Bell's Cup ...". The Sunday Herald. 4 August 2002.
  5. League Challenge Cup, dundeeunitedfc.co.uk. Dundee United F.C.. Retrieved 5 April 2013.
  6. 6.0 6.1 "Scottish Challenge Cup: Bray Wanderers and Sligo Wanderers 'relishing' trophy chance". BBC Sport. 7 June 2017. Cyrchwyd 7 June 2017.
  7. "Challenge Cup expansion announced - Scottish Professional Football League". Scottish Professional Football League. 8 June 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-07. Cyrchwyd 9 June 2016.
  8. "BBC Alba to screen live SFL games". BBC Sport. 3 February 2009. Cyrchwyd 11 April 2009.
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.