Cwrlo
Mabolgamp sy'n tarddu o'r Alban yw cwrlo. Mae dau dîm yn sglefrio meini ar iâ gan anelu at darged o bedwar cylch consentrig. Mae'r gêm yn debyg i fowliau, boules a gwthfwrdd. Mae cwrlo yn un o chwaraeon Olympaidd y gaeaf. Gwneir y meini cwrlo o garreg gwenithfaen gyda pentref Trefor yn un o'r ddau ffynhonnell yn y byd.
Enghraifft o'r canlynol | math o chwaraeon |
---|---|
Math | chwaraeon gaeaf, chwaraeon tîm, chwaraeon rhew, chwaraeon olympaidd |
Gwlad | Yr Alban |
Dechrau/Sefydlu | 1966 |
Gwefan | http://www.worldcurling.org |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cymdeithas Cwrlio Cymru
golyguYn 1974 sefydlwyd Cymdeithas Cwrlo Cymru (sillefir fel "cwrlio" nid "cwrlo"). Dyma'r corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer y gamp yng Nghymru. Ar wahân i westeion, mae pob cwrlwr sy'n chwarae yng Nghymru yn aelod o'r WCA, ac yn talu ardoll flynyddol tuag at ei chynnal. Mae’r WCA yn gyfrifol am ddewis timau – drwy dwrnament cenedlaethol neu ddulliau eraill – i gynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol.
Mae Cymru’n rhoi timau i mewn i nifer o ddigwyddiadau rhyngwladol gan gynnwys cystadlaethau Dynion Ewropeaidd, Byd Cymysg, Dwbl Cymysg y Byd a Chystadlaethau Hŷn y Byd, sy’n cael eu rhedeg yn flynyddol gan Ffederasiwn Cyrlio’r Byd.[1]
Meini Cwrlo a'r cysylltiad Cymreig
golyguMae gwenithfaen Chwarel yr Eifl yn cael ei defnyddio, ymysg pethau eraill, i gynhyrchu meini cwrlo, y cerrig a ddefnyddir wrth chwarae cwrlo. Mae cwrlo'n debyg i fowlio ar iâ, gyda'r chwaraewyr yn anelu cerrig trymion tuag at darged ar hyd arwyneb sydd wedi ei rewi. Mae'n gamp a chwaraeir yn y Gemau Olympaidd ac, yn 2002, cerrig o Drefor yn unig a ddefnyddid yn y gemau hynny. Trefor yw un o ddim ond dwy ffynhonnell o wenithfaen a ganiateir gan gorff llywodraethol rhyngwladol y gamp - y ffynhonnell arall yw ynys Creag Ealasaid (Ailsa Craig) yn Swydd Ayr yn yr Alban. Cyfyngir ar darddiad y cerrig er mwyn sicrhau safon gyfartal rhwng chwaraewyr, a dewiswyd gwenithfaen Trefor oherwydd ei lefel arbennig iawn o galedwch a'i gallu i beidio ag amsugno hyd yn oed y diferyn lleiaf o hylif.[2]
Dolen allanol
golygu- Sianel Welsh Curling yn dangos enghreifftiau o cwrlo
- BBC - Papur Fama - Cwrlo ar y rhew
- Cymdeithas Cwrlio Cymru gwefan swyddogol
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "About us". Gwefan Cymdeithas Cwrlo Cymru. Cyrchwyd 16 Awst 2024.
- ↑ "Meini Cwrlo". Canolfan Hanes Uwch Gwyrfai. Cyrchwyd 15 Awst 2024.