CBAC

bwrdd arholi yn y Deyrnas Unedig
(Ailgyfeiriad o Cyd-bwyllgor Addysg Cymru)

Mae CBAC (fe'i galwyd yn Cyd-bwyllgor Addysg Cymru tan 2007) yn fwrdd arholi sy'n darparu arholiadau, asesiadau, datblygiad proffesiynol, adnoddau addysgol, cefnogaeth i oedolion sy'n dysgu'r Gymraeg, a mynedfeydd i weithgareddau celfyddydol ieuenctid. Yn draddodiadol, mae e wedi gwasanaethu Cymru, ond yn awr yn darparu arholiadau i Loegr a Gogledd Iwerddon hefyd.

CBAC


PencadlysCaerdydd
Sefydlwyd1948
LleoliadCymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon
Gwefanhttp://www.cbac.co.uk

Ym Medi 2018, bydd golygu Wicipedia Cymraeg yn un o heriau swyddogol y Fagloriaeth Gymreig; cyflwynwyd y briff gan Wici Môn ac fe'i derbyniwyd yn swyddogol gan CBAC yn Rhagfyr 2017.[1]

Hanes golygu

Sefydlwyd CBAC ym 1948. Mae'n elusen gofrestredig, yn gwmni a gyfyngir gan warant, ac yn perthyn i 22 awdurdod lleol Cymru. Mae is-gwmni, sef WJEC CBAC Services Ltd, yn darparu gwasanaethau argraffu a chyhoeddi arbenigol.

Cyfrifoldebau golygu

Cymwysterau golygu

Mae CBAC yn cynnig ystod o gymwysterau, yn bynciau traddodiadol, academaidd a rhai mwy galwedigaethol eu natur, yn Lefel Mynediad, TGAU, Lefel Uwch a Sgiliau Allweddol.

Yn 2007, ar ôl peilot o dair blynedd, daeth Bagloriaeth Cymru yn rhan o bortffolio CBAC. Bydd y cymhwyster ar gael yn gynyddol i ysgolion yng Nghymru ar lefelau canolradd ac uwch. Mae'r Fagloriaeth, neu'r Bac Cymreig fel y'i gelwir hefyd, yn cynnig rhaglen sy'n cynnwys gweithio gyda chyflogwyr, gweithgareddau yn y gymuned, ymchwiliad personol a sgiliau allweddol, yn ogystal ag astudiaethau TGAU, GNVQ neu Lefel Uwch.

Mae CBAC yn darparu cyfres o arholiadau arbennig ar gyfer oedolion sy'n dymuno dysgu Cymraeg.

Datblygiad Proffesiynol golygu

Mae CBAC yn trefnu rhaglen o ddatblygiad proffesiynol gyda'u harbenigwyr pwnc a'u Prif neu Uwch Arholwyr. Darperir hyfforddiant mewn swydd mewn gwestai a chanolfannau cynadledda ledled Cymru a Lloegr. Mae CBAC hefyd yn trefnu cyrsiau yn arbennig ar gyfer athrawon y Gymraeg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, ac ar gyfer athrawon sy'n dysgu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r gwasanaeth yma ar gael drwy Gynllun Cenedlaethol HMS (Hyfforddiant Mewn Swydd) Cymru.

Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru golygu

CBAC sy'n rheoli'r Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru (GCaD), sy'n darparu adnoddau ar-lein rhad ac am ddim yn Gymraeg a Saesneg trwy ei wefan ryngweithiol.

Celfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru golygu

Fel rhan o gytundeb rhwng CBAC ac awdurdodau lleol Cymru, mae CBAC yn rheoli Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Mae'r ddau gwmni hyn yn rhan o Gelfyddydau Ieuenctid Cymru, a gefnogir gan CBAC mewn partneriaeth â Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru.

Hygrededd golygu

Yn Rhagfyr 2011, ataliwyd Paul Jones, un o Brif Arholwr hanes CBAC o'i waith am iddo gael ei ffilmio'n rhoi gwybod i athrawon beth oedd cynnwys y papur. Gwnaed hyn tra bod CBAC yn ymchwilio i mewn i gyhuddiadau gan y Telegraph. Dywedodd ar ffilm i'r athrawon: We're cheating, we're telling you the cycle. Probably the Regulator would tell us off. Ffilmiwyd Paul Barnes hefyd gan y Telegraph ar yr un cwrs yn datgelu cynnwys peth o'r papur arholiad i'r athrawon a oedd yn talu dros £200 yr un am y cwrs.[2][3]

Dywedodd Geoff Lucas, cyn-gynorthwyydd Prif Weithredwr QCA, corff sy'n rheoleiddio cyrff arholi megis CBAC, "Part of me was shocked to hear words such as "We're cheating"...it's quite shocking." Galwodd Michael Gove, yr Ysgrifennydd dros Addysg yn Lloegr, am ymchwiliad i mewn i'r sefyllfa.

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan cbac.co.uk;[dolen marw] adalwyd 26 Medi 2018.
  2. (Saesneg) CBAC (8 Rhagfyr 2011). Daily Telegraph investigations. CBAC. Adalwyd ar Tachwedd 16, 2011.
  3. (Saesneg) The Telegraph (8 Rhagfyr). Exam boards: two examiners suspended after 'cheating' claims. The Telegraph. Adalwyd ar Tachwedd 16, 2011.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.