Cyflafan Peterloo

cyflafan ym Manceinion ym 1819

Ddigwyddiad ym Manceinion, Lloegr, ar 16 Awst 1819 oedd Cyflafan Peterloo (Saesneg: Peterloo Massacre), pan ymosododd marchfilwyr ar dorf o tua 60,000 o bobl a oedd wedi ymgynnull yn heddychlon ym Maes San Pedr ("St Peter's Field") i alw am ddiwygio cynrychiolaeth seneddol. Y canlyniad oedd llawer o farwolaethau a channoedd o anafiadau.

Cyflafan Peterloo
Enghraifft o'r canlynolcyflafan Edit this on Wikidata
Dyddiad16 Awst 1819 Edit this on Wikidata
Lladdwyd15 Edit this on Wikidata
LleoliadManceinion Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn ôl un sylwebydd, Cyflafan Peterloo oedd "digwyddiad gwleidyddol mwyaf gwaedlyd y 19eg ganrif ar bridd Lloegr", ac roedd yn "ddaeargryn gwleidyddol ym mhwerdy gogleddol y chwyldro diwydiannol".[1]

Y cyfarfod a'r ymosodiadau golygu

Yn ystod y cyfnod hwn, cyfnod o gwymp economaidd, diweithdra, a phrisiau a threthi uchel, ychydig iawn o bobl oedd yn gymwys i bleidleisio – tua 11% o ddynion. Roedd y Chwyldro Diwydiannol wedi creu canolfannau trefol dwys eu poblogaeth a oedd â chynrychiolaeth arbennig o wael yn Nhŷ'r Cyffredin. Ceisiodd diwygwyr radical, ar ôl trefnu deiseb aflwyddiannus dros ddiwygio seneddol, ysgogi torfeydd mawr i roi pwysau ar lywodraeth y wlad. Roedd y mudiad yn arbennig o gryf yng ngogledd-orllewin Lloegr, lle trefnodd Undeb Gwladgarol Manceinion (Manchester Patriotic Union) gyfarfod torfol ym mis Awst 1819, a anerchwyd gan Henry Hunt, areithiwr radical adnabyddus.

Yn fuan ar ôl i'r cyfarfod ddechrau, rhoddodd ynadon lleol gyfarwyddyd i'r iwmyn (Manchester and Salford Yeomanry) i arestio Hunt a sawl un arall ar y platfform gydag ef. Ymosododd yr iwmyn ar y dorf, gan guro dynes i'r llawr a lladd plentyn, a dal Hunt o'r diwedd. Yna dywedwyd wrth y 15fed King's Hussars, catrawd marchfilwyr, i wasgaru'r dorf. Defnyddiodd y milwyr gleddyfau sabr i ymosod. Lladdwyd tua 17 o bobl ac anafwyd tua 600 yn y dryswch a ddilynodd. Roedd y meirw a'r clwyfedig yn cynnwys menywod a phlant.

 
The Massacre of Peterloo or Britons Strike Home (1819): cartŵn gan George Cruikshank (1792–1878) yn darlunio ymosodiad y marchfilwyr ar y dorf

Canlyniadau golygu

Cafodd y digwyddiad ei alw'n "Cyflafan Peterloo" gan bapur newydd radical y Manchester Observer, gan gyfeirio'n gellweirus at Frwydr Waterloo a ddigwyddodd bedair blynedd ynghynt.

Arswyd a ffieidd-dra at weithredoedd yr awdurdodau oedd barn y cyhoedd ledled Lloegr, ond ymateb uniongyrchol y llywodraeth oedd llunio cyfres o ddeddfau gormesol (y "Chwe Deddf") a oedd â'r nod o atal unrhyw gyfarfodydd at ddibenion diwygio radical.

Cyhuddwyd Henry Hunt ac wyth dyn arall o sedition (annog gwrthryfel). Ar ôl pythefnos o achos ym Mrawdlys Caerefrog ym mis Mawrth 1820, dyfarnwyd pum diffynnydd yn euog. Dedfrydwyd Hunt i 30 mis o garchar. Rhoddwyd blwyddyn yr un i dri arall, a charcharwyd y pumed dyn am ddwy flynedd ar gyhuddiad dilynol.

Cyfarwyddodd y llywodraeth yr heddlu a'r llysoedd i erlid newyddiadurwyr, gweisg a chyhoeddi'r Manchester Observer. Arestiwyd y golygydd a'i ddyfarnu'n euog o gynhyrchu cyhoeddiad anogol i wrthryfel. Cafodd ei ddedfrydu i 12 mis yn y carchar a dirwyo £100.

 
Plac coffa (2007) ar wal y Free Trade Hall, Manceinion

Cyfeiriadau golygu

  1. Robert Poole, Peterloo: The English Uprising (Rhydychen, 2019), tt.1–2