Cyflafan Sharpeville

Lladdfa a gyflawnwyd gan Heddlu De Affrica mewn ymateb i wrthdystiad gan dorf fawr o bobl dduon yn erbyn apartheid oedd cyflafan Sharpeville a ddigwyddodd ar 21 Mawrth 1960 yn nhreflan Sharpeville, ger Vereeniging yn nhalaith y Transvaal, De Affrica.

Cyflafan Sharpeville
Enghraifft o'r canlynolcyflafan Edit this on Wikidata
Dyddiad21 Mawrth 1960 Edit this on Wikidata
Lladdwyd69 Edit this on Wikidata
LleoliadSharpeville Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyhoeddodd y Gyngres Ban-Affricanaidd (PAC)—grŵp hollt o'r Gyngres Genedlaethol Affricannaidd (ANC)—brotestiadau i'w cynnal ar draws De Affrica ar 21 Mawrth 1960 i alw am ddiddymu deddfau'r pasbortau mewnol a ddefnyddiwyd i orfodi arwahanu hiliol yn y wlad. Cyfarwyddodd y PAC i brotestwyr wrthod eu paslyfrau, ac felly rhoi rheswm i'r heddlu eu harestio fel ffordd o anufudd-dod sifil. Ymgynnullodd rhyw 20,000 o bobl dduon ger gorsaf yr heddlu yn Sharpeville. Yn ôl yr heddlu, dechreuodd y dorf daflu cerrig atynt, ac ymatebant drwy saethu eu peirianddrylliau bychain. Bu farw 69 o bobl, ac anafwyd mwy na 180.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Sharpeville massacre. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Hydref 2022.