Vereeniging
Tref yn nhalaith Gauteng, De Affrica, yw Vereeniging. Saif ar lannau Afon Vaal, i dde Johannesburg, nid nepell o'r ffin daleithiol â'r Wladwriaeth Rydd.
Yr Eglwys Ddiwygiedig Iseldiraidd yn Vereeniging. | |
Math | tref |
---|---|
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Lleol Emfuleni |
Gwlad | De Affrica |
Uwch y môr | 1,479 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 26.6736°S 27.9319°E |
Cod post | 1939, 1930 |
Mae'r enw, y gair Affricaneg am "gymdeithas" neu "undeb", yn cyfeirio at y gymdeithas lofaol a oedd yn berchen ar yr anheddiad a sefydlwyd yno ym 1892. Yma ym 1902 cynhaliwyd trafodaethau heddwch ar gyfer Cytundeb Vereeniging i ddod â therfyn i Ail Ryfel y Boer. Ymgorfforwyd y gymuned yn dref ym 1912.[1]
Elwodd Vereeniging ar ei maes glo, a dyfroedd Afon Vaal, i ddatblygu'n un o'r prif ganolfannau diwydiannol trwm yn Ne Affrica. Mae gweithfeydd y dref yn cynhyrchu haearn a dur, gwydr, a briciau a theils, a phrosesu calch a glo, ac mae gorsafoedd ynni gwres lleol yn darparu trydan i'r grid cenedlaethol.
Ar gyrion Vereeniging lleolir treflan Sharpeville, safle cyflafan Sharpeville ym 1960.
Cynyddodd y boblogaeth o 79,630 yn 2001[1] i 99,787 yn 2011.[2] Yn ôl cyfrifiad 2011, mae 55% o drigolion Vereeniging yn bobl dduon, 33% yn bobl wynion, 6% o dras Indiaidd neu Asiaidd, a 5% yn bobl groenliw.[2] Prif ieithoedd cyntaf y boblogaeth yw Afrikaans (35%), Sesotho (26%), Saesneg (15%), Swlŵeg (8%), a Xhosa (4%).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Vereeniging. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Hydref 2022.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) "Census 2011: Vereeniging". Adalwyd ar 13 Hydref 2022.