Cyfraith Louisiana
Trefn gyfreithiol sydd ar waith yn nhalaith Louisiana, Unol Daleithiau America yw cyfraith Louisiana sydd yn yn y bôn yn seiliedig ar y gyfraith Rufeinig, yn hytrach na'r gyfraith gyffredin, ac felly'n unigryw ymhlith systemau cyfreithiol taleithiau'r Unol Daleithiau.[1]
Datblygodd y drefn yn Louisiana o ganlyniad i hanes yr ardal yn ystod yr oes drefedigaethol. Yn niwedd yr 17g, rhoddwyd yr enw La Louisiane, er anrhydedd y Brenin Louis XIV, ar ran fawr o Ffrainc Newydd, tiriogaeth Teyrnas Ffrainc yng Ngogledd America. Daeth dan reolaeth Ymerodraeth Sbaen ym 1769 yn sgil Cytundeb Fontainebleau, a dychwelwyd y diriogaeth i Ffrainc ym 1801 yn ôl telerau Cytundeb Aranjuez. Ym 1803, daeth o'r diwedd yn rhan o'r Unol Daleithiau o ganlyniad i Bryniant Louisiana, a derbyniwyd talaith Louisiana, sydd ond yn cyfateb i ran fach o'r hen diriogaeth, i'r Undeb ym 1812.
Bu nifer o drigolion Louisiana yn disgyn o ymfudwyr Ffrengig, gan gynnwys ffoaduriaid o Acadia a Haiti, ac wedi hen arfer â'r gyfraith Rufeinig a fu'n gyffredin i bobloedd Ladinaidd Ewrop. Cydnabuwyd yr angen i gyfundrefnu'r cyfreithiau yn Louisiana am fod yr hen drefn yn anghyson â dulliau a deddfwriaeth yr Unol Daleithiau. Mabwysiadwyd côd dros dro ym 1806–08 i ddisodli'r hen ddeddfau mewn achosion o gwrthdaro yn y gyfraith. Lluniwyd côd newydd i Louisiana ar sail Côd Napoleon, gyda darpariaethau ar gyfer y gyfraith gyffredin, a fe'i mabwysiadwyd gan y dalaith ym 1824.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Symeon Symeonides, "An Introduction to "The Romanist Tradition in Louisiana": One Day in the Life of Louisiana Law", Louisiana Law Review 56:2 (gaeaf 1996), tt. 249–55.