Cyhyryn deuben
Mewn anatomeg dynol, cyfeiria'r cyhyryn deuben (Saesneg:biceps brachii neu biceps yn unig) at gyhyryn gyda dau ben, sydd wedi'i leoli ar ran uchaf y fraich. Cwyd y ddau ben ar badell yr ysgwydd gan ymuno i ffurfio cyhyryn unigol sydd wedi ei gysylltu â rhan uchaf yr elin. Er bod y cyhyryn deuben yn croesi cymalau'r ysgwyddau a'r penelin, gwna ei brif swyddogaeth gyda'r penelin lle mae'n ystwytho'r penelin ac yn dyleddfu'r elin. Defnyddir y symudiadau hyn pan yn gwneud rhywbeth fel pan yn agor botel gyda chorcsgriw: yn gyntaf bydd y cyhyryn deuben yn dadsgriwio'r corcyn (swpinadiad), ac yna mae'n tynnu'r corcyn allan (ystwythiad).
Enghraifft o'r canlynol | chiral muscle organ type, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | cyhyr yn adran flaen y fraich, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | cyhyr yn adran flaen y fraich |
Cysylltir gyda | glenoid labrum |
Yn cynnwys | long head of the biceps brachii, short head of the biceps brachii |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |