Cylch Cerrig Ballynoe

Lleolir Cylch Cerrig Ballynoe ger pentref bychan Ballynoe 2.5 milltir (4 km) i'r de o Downpatrick, Swydd Down, Gogledd Iwerddon. Mae'n gylch cerrig mawr trawiadol sy'n gorwedd ar iseldir amaethyddol, llai na 100 troedfedd uwch lefel y môr, yng nghanol gorynys ffrwythlon Lecale. Yn ôl pob tebyg mae'r cylch cerrig hwn yn dyddio o gyfnod sy'n ymestyn o Oes Newydd y Cerrig i ran gyntaf Oes yr Efydd.[1]

Cylch Cerrig Ballynoe
Mathcylch cerrig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Cyfesurynnau54.2903°N 5.7244°W Edit this on Wikidata
Map
Cylch Cerrig Ballynoe.
Rhan o Gylch Cerrig Ballynoe.

Ceir siambr gladdu hir dan y garnedd yng nghanol y cylch, a gloddiwyd yn 1937-38 gan yr archaeolegydd o'r Iseldiroedd, y Dr A.E. Van Giffen.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Historic Monuments of Northern Ireland. Belfast: HMSO. pp. p88.
  2. Mallory, JP & McNeill, TE (1991). The Archaeology of Ulster from Colonization to Plantation. Belfast: Institute of Irish Studies, QUB. pp. p72–73.

Dolen allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


  Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.