Cylch Cerrig Tan-y-braich
Saif cylch cerrig Tan-y-braich uwchlaw Llanfairfechan, Sir Conwy, rhwng y pentref hwnnw a Bwlch y Ddeufaen.
Cefndir
golyguMae llawer iawn o'r cylchoedd hyn yn ymwneud â chladdu gweddillion dynol. Mae'r pridd yn cynnwys lefel uchel o siarcol - sef yr hyn sydd ar ôl wedi i chwi losgi pren neu asgwrn. Gallant hefyd fod yn gysylltiedig â chrefydd yr oes neu gyda'r calendr. Neu efallai fod pob un o'r tri yma'n digwydd yn yr un lle ar yr un pryd.