Cymdeithas Bêl-droed Georgia
Sefydlwyd y Cymdeithas Bêl-droed Georgia neu, yn llythrennol, Ffederasiwn Pêl-droed Georgia (Georgeg: საქართველოს ფეხბურთის ფედერაცია; Sakartwelos Pechburtis Pederazia) yn 1936. Arddelir y talfyriad Saesneg o enw'r Gymdeithas ar ei bathodyn cenedlaethol, GFF.
UEFA | |
---|---|
Sefydlwyd | 1936/1990 |
Aelod cywllt o FIFA | 1992 |
Aelod cywllt o UEFA | 1992 |
Llywydd | Levan Kobiashvili |
Y Ffederasiwn yw corff llywodraethol pêl-droed yn Jeorgia. Mae'n trefnu'r gynghrair bêl-droed, gan gynnwys Uwch Gynghrair Georgia (yr Erovnuli Liga), a Tîm pêl-droed cenedlaethol Georgia. Mae'r pencadlys wedi ei lleoli yn y brifddinas, Tbilisi. Daeth y Ffederasiwn yn aelodau o FIFA ac UEFA yn 1992 wedi cwymp yr Undeb Sofietaidd ar ddiwedd 1991.
Hanes
golyguRoedd yn rhan o Ffederasiwn Pêl-droed yr Undeb Sofietaidd rhwng 1936 a 1989. Sefydlwyd Ffederasiwn Pêl-droed Sioraidd Annibynnol ar 15 Chwefror 1990 wrth i'r Undeb Sofietaidd ddadfeilio. Georgia oedd y cyntaf i adael y Ffederasiwn Pêl-droed Sofietaidd a datgan annibyniaeth.
Ymhlith gweriniaethau perthynol yr Undeb Sofietaidd, Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Geogria (SSR Georgia) oedd y cyntaf i ddewis llwybr annibyniaeth. Ar 25 Chwefror 1992, daeth yn aelod dros dro o FIFA (y corff byd-eang), ac ar 3 Gorffennaf cafodd ei gydnabod fel aelod llawn yn y Gyngres yn Zurich.
Pêl-droed Domestig
golyguMae Ffederasiwn Pêl-droed Georgia wedi bod yn cynnal y bencampwriaeth a'r cwpan cenedlaethol er 1990. Cynhelir gêm swyddogol gyntaf y Bencampwriaeth Genedlaethol 30 Mawrth 30 1990. Y timau yn y gêm hanesyddol hon oedd Tbilisi Iberia a Poti Kolkheti-1913. Cynhaliwyd y gêm, a fynychwyd gan nifer fawr o gefnogwyr, yn Arena Dinamo a daeth i ben gyda buddugoliaeth Poti (1–0). Er gwaethaf dechrau anffafriol Tbilisi, fe wnaethant gystadlu’n llwyddiannus yn y bencampwriaeth genedlaethol gyntaf, lle collon nhw ddim ond 4 gêm allan o 34 gêm a dod yn ddeiliaid cyntaf teitl y pencampwr Sioraidd gyda 78 pwynt.
Er 1993, mae clybiau Georgia wedi bod yn cymryd rhan mewn twrnameintiau clybiau Ewropeaidd, ac er 1994, mae timau cenedlaethol Sioraidd ac amrywiol dimau cenedlaethol wedi bod yn cymryd rhan yn rowndiau rhagbrofol Cwpanau Ewrop a'r Byd.
Sgandalau
golyguYm mis Ebrill 2005 ysgwydwyd y Ffederasiwn gan sgandal embezzlement. Gorfodwyd Arlywydd y Gymdeithas, Merab Schordania, i ymddiswyddo ar ôl iddo gael ei arestio ar amheuaeth o embezzling arian o goffrau Gymdeithas Dinamo Tbilisi, sef cyfanswm o filiwn o ddoleri'r UD. Fe'i rhyddhawyd bedwar mis yn ddiweddarach heb dderbyn achos llys a thalodd gannoedd o filoedd o lari (arian wlad) i'r wladwriaeth, y dywedir ei fod yn cyfateb i'r swm o arian yr oedd wedi'i embezzled. Ni ddatgelwyd yr union swm.
Roedd Schordania eisoes wedi bod yn y carchar am osgoi talu treth rhwng mis Rhagfyr 2003 a mis Ionawr 2004, ond roedd wedi gallu ailgychwyn yn ei swydd gyda'r Ffederasiwn. Yn yr achos yma, hefyd, fe lwyddodd i dalu am ei ryddid o'r carchar, gan dalu tua $340,000 i'r trysorlys.
Dolenni
golygu- Gwefan Swyddogol
- Georgia Archifwyd 2018-09-27 yn y Peiriant Wayback ar wefan FIFA
- Georgia ar wefan UEFA
- Gwefan Swyddogol Uwch Gynghrair Georgia