Cymdeithas Bêl-droed Slofacia

cymdeithas bêl-droed

Y Slovenský futbalový zväz (SFZ) (Cymraeg: Cymdeithas Bêl-droed Slofacia) yw corff llywodraethol pêl-droed yng ngweriniaeth Slofacia. Dyma'r corff sy'n gyfrifol am lywodraethu a datblygu'r gêm yn y wlad a rhedeg Tîm pêl-droed cenedlaethol Slofacia a'i thimau cenedlaethol eraill. Mae ei phencadlys yn Bratislava, prifddinas y wlad.

Cymdeithas Bêl-droed Slofacia
UEFA
[[File:|150px|Association crest]]
Sefydlwyd4 Tachwedd 1938
Aelod cywllt o FIFA1994
Aelod cywllt o UEFA1993
LlywyddJán Kováčik

Hanes golygu

Sefydlwyd y Gymdiethas ar 4 Tachwedd 1938 yn dilyn dadgymalu gwladwriaeth Tsiecoslofacia gan y Natsiaid. Daeth yn aelod o FIFA yn 1939 gan i Slofacia ddod yn wlad annibynnol am gyfnod yn ystod yr Ail Ryfel Byd (er bod nifer yn ystyried yr annibyniaeth yma fel gwladwriaeth byped i'r Natsiaid). Dadaelodwyd y Gymdeithas o FIFA yn dilyn y Rhyfel wrth i Tsiecoslofacia ail-ffurfio fel gwladwriaeth unedig gyda un tîm pêl-droed.

Yn dilyn diddymiad Tsiecoslofacia ar 1 Ionawr 1993 fe ail-ffurfiwyd y Gymdeithas gan ail-ymuno â chorff lywodraethol pêl-droed Ewrop, UEFA ac ymuno am y tro cyntaf â'r corff byd-eang, FIFA yn 1994.[1]

Timau Cenedlaethol golygu

Y Gymdeithas Bêl-droed sy'n rhedeg y tîm cenedlaethol yn ogystal â'r timau dynion Dan-21, dan-19, dan-18, dan-17, dan-16 a dan-15. Mae hefyd yn gyfrifol am dîm cenedlaethol menywod Slofacia.

Cystadlaethau Domestig golygu

 
Cwpan Slofacia, y Slovensky pohar

Mae'r SFZ yn gyfrifol am drefnu twrnamentiau pêl-droed yn y wlad. Y gynghrair uchaf yw'r Uwch Gynghrair a elwir, ar hyn o'r bryd, yn Fortuna Liga arôl y prif noddwyr.[2] asefydlwyd yn 1939. Ceir wedyn, Cynghrair 1ad; 2il Gynghrair a Cynghrair 1af Menywod a hefyd cystadleaeth Cwpan Slofacia.

Record golygu

Mae Slofacia wedi ymddangos mewn dau brif pencampwriaeth ers diddymu Tsiecoslofacia:

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Slovakia". uefa.com. Cyrchwyd 8 March 2018.
  2. Najvyššia súťaž zmení názov, Fortuna nahradí Corgoň Archifwyd 2016-06-10 yn y Peiriant Wayback. Erthygl o 16 Mai 2014 (Slofaceg)