Cymdeithas Cymru-Ariannin

Cymdeithas ddiwyllianol ydy Cymdeithas Cymru-Ariannin sy'n cynnal dolen gyswllt rhwng Cymru a'r Ariannin. Mae'n gymdeithas elusennol a daw'r cyfan o'i hincwm oddi wrth ei haelodau.

Cymdeithas Cymru-Ariannin
Enghraifft o'r canlynolsefydliad Edit this on Wikidata
PencadlysCymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethyr Ariannin Edit this on Wikidata

Syfydlwyd Cymdeithas Cymry Ariannin ym 1939 gan rai a oedd â chysylltiad â'r Wladfa Gymreig yn Chubut, Yr Ariannin er mwyn bod yn ddolen gyswllt rhwng y ddwy wlad. Newidiwyd yr enw yng nghyfarfod blynyddol 1999 i Gymdeithas Cymru-Ariannin i adlewyrchu aelodaeth a gweithgareddau'r Gymdeithas heddiw.

Gweithgareddau'r Gymdeithas

golygu
  • Trefnu a noddi teithiau cyfnewid i athrawon, myfyrwyr a gweinidogion rhwng Cymru ac Ariannin. Mae gan y Gymdeithas gynrychiolydd ar Bwyllgor Cynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut sydd wedi bod yn gyrru athrawon i dalaith Chubut i ddysgu'r Gymraeg. Mae'r Gymdeithas yn cyfrannu at gludiant a llety y myfyrwyr ddaw dan y Project i'r cwrs Cymraeg dwys a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd yn flynyddol yn yr haf.[1]
  • Noddi cystadleuaeth flynyddol, ers Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1978, yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn Ariannin. Cyhoeddwyd dau ddetholiad o'r cynnyrch Atgofion o Batagonia; gol. R. Bryn Williams (Gwasg Gomer, 1980) a Byw ym Mhatagonia; gol. Guto Roberts a Marian Elias Roberts (Gwasg Gwynedd, 1993). Mae'r ddau lyfr allan o brint. Cyhoeddwyd Bywyd yn y Wladfa - detholiad o gynnyrch 1978 - ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009.
  • Ymhlith sefydliadau sydd wedi derbyn mae Ysgol Gymraeg Trelew, Ysgol Feithrin y Gaiman a Chanolfan Gymraeg yr Andes.
  • Cynhelir Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn flynyddol a bu gan y Gymdeithas Babell ar y Maes ers 1997.
  • Dethlir Gŵyl y Glaniad yn flynyddol yng Nghymru.

Canghennau

golygu

Mae gan y Gymdeithas dair cangen - yr hynaf yw un Môn ac Arfon; sefydlwyd rhai hefyd yng Nghaerdydd (Cangen y De) ac yng ngogledd ddwyrain Cymru (Cangen Clwyd).

Cyhoeddiadau

golygu
  • Cymdeithas Cymry Ariannin 1939-1989 (1989).

Dolenni allanol

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Visitors from Patagonia / Ymwelwyr o Batagonia Gwefan Canolfan Cymraeg i Oedolion Prifysgol Caerdydd. 22.2.2012