Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1978

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1978 yn ardal Pentwyn, Caerdydd. Emyr Currie-Jones oedd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith. a T. Llewelyn Hughes a'r Barnwr Dewi Watkyn Powell oedd yr Is-gadeiryddion.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1978
Enghraifft o'r canlynolun o gyfres reolaidd o wyliau Edit this on Wikidata
Dyddiad1978 Edit this on Wikidata
CyfresEisteddfod Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Meini'r Orsedd, Parc Cathay, Caerdydd.

Ar Nos Sul y 6ed o Awst cynhaliwyd Cyngerdd Operatic gyda Geraint Evans, Kenneth Bowen, Anne Edwards, a Maureen Guy, Cor yr Eisteddfod, Cerddorfa Symffoni Gymreig y BBC dan arweiniad Owain Arwel Hughes a James Callaghan yn Llywydd.

Testun y Fedal Ryddiaith oedd hunangofiant ar thema 'Trobwynt' neu 'Argyfwng'. Rhoddwyd y Fedal gan Gymdeithas Islwyn ac roedd gwobr ariannol o £250 hefyd. Daeth 22 cyfrol i law a chyhoeddodd y tri beirniad, Bedwyr Lewis Jones John Gwilym Jones a Rhiannon Davies Jones taw 'Johannes' oedd yn fuddugol. Mae'n ddyddiadur dychmygol Sören Kierkeggard, sef athronydd a llenor ifanc oedd ar ei wely angau mewn ysbyty yn Copenhagen. Roedd yna perfformiad gan disgyblion Ysgol Gyfun Rhydfelen o 'Tonfedd 78'.[angen ffynhonnell]

Prif Gystadlaethau
Cystadleuaeth Teitl y Darn Ffugenw Enw
Y Gadair Y Ddinas Atal y wobr
Y Goron Dilyniant o gerddi "Aman Bach" Siôn Eirian
Y Fedal Ryddiaith Y Ddaeargryn Fawr "Iohannes" Harri Williams
Gwobr Goffa Daniel Owen Hirfaen (Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr) "Cymydmaen" Alun Jones

Printiau'r Cyhoeddi golygu

Cynhyrchwyd cyfres Printiau’r Cyhoeddi gan artistiaid y brifddinas nôl yn 1977 er mwyn dathlu dyfodiad y Brifwyl i Gaerdydd y flwyddyn ganlynol. Comisynwyd y gwaith gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru ac roedd y printiau i’w gwerthu er mwyn codi arian tuag at wobrau celf weledol y Brifwyl. Yr amcan ar y pryd oedd cynhyrchu cyhoeddiad cyfyngedig o 35 print gan bob un artist, a oedd un ai’n byw neu’n gweithio yng Nghaerdydd, neu â chysylltiad â’r Ysgol Gelf.

Mae’r casgliad yn cynnwys gwaith argraffu sgrîn sidan, lithograffi ac ysgythru gan yr artisitiad canlynol:Mervyn Baldwin, Paul Beauchamp, Paul Brewer, Evan Charlton, Felicity Charlton, Barrie Cook, Michael Crowther, Geoff Davies, Hugh Evans, Linda Evans, Russell Greenslade, Harry Holland, Tom Hudson, Phil Jennings, Glyn Jones, Eliseo Lagana, Eric Malthouse, Arthur Miles, David Miller, Beverley Napp, Philip Nicol, Chris Orr, Terry Setch, Chris Shurrock a Jeffrey Steele.

Aeth dau o’r cyfranogwyr, Paul Brewer a Phil Nicol ymlaen i ennill Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol a dau arall Terry Setch a Chris Orr bellach yn aelodau o’r Academi Frenhinol yn Llundain.

Aeth y casgliad yn anghof am nifer o flynyddoedd. Daethpwyd o hyd i flwch mawr pren yn swyddfa’r Eisteddfod yng Nghaerdydd. Ynddo roedd printiau amrywiol gan 25 artist a bu arddangosfa a gwerthiant o'r gwaith yn mis Rhagfyr 2013.[1][2][3]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.