Cymdeithas Wyddonol Genedlaethol
Sefydlwyd y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol yn 1971 gyda'r amcan o hybu ymwybyddiaeth o faterion gwyddonol yng Nghymru, yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg[1]. Mae'r gymdeithas wedi'i threfnu ar gynllun ffederal. Ym 1979 noddodd wobr gwyddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol[2].
Cymdeithas Wyddonol | |
Enghraifft o'r canlynol | cymdeithas wyddonol |
---|---|
Lleoliad | Aberystwyth, Bangor, Caerdydd |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://www.star.bris.ac.uk/rahm/cwcc/ |
Mae yna ganghennau ym Mangor[3], yng Nghaerdydd[4] ac yn Aberystwyth.
Digwyddiadau
golyguMae'r gymdeithas yn trefnu digwyddiadau mewn ysgolion yn ogystal â chynhadledd flynyddol, ac mae'n cynhyrchu llyfrau a defnyddiau printiedig eraill ar gyfer plant ac oedolion, yn cynnwys Cystadleuaeth fathemategol (1983-) a Llyfr cyflwyno plentyn i'r Micro BBC (1986)[5][6]. Roedd yn cynhyrchu deunydd i'r we yn Gymraeg (archif gwe) ac yn ddwyieithog ar bynciau gwyddonol.
Cadeirydd
golyguDolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Cymdeithas Wyddonol Genedlaethol. - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2024-08-05.
- ↑ 2.0 2.1 #author.fullName}. "Forum: Is there life beyond English? - Tony Jones looks at the movement to merge science with Welsh". New Scientist (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-05.
- ↑ "Cymdeithas Wyddonol Gwynedd". Deri Tomos. 2023-09-27. Cyrchwyd 2024-08-05.
- ↑ "Cymdeithas Wyddonol Cylch Caerdydd". www.star.bris.ac.uk. Cyrchwyd 2024-08-05.
- ↑ "Cystadleuaeth Mathemategol 2015" (PDF). Urdd Cymru. Cyrchwyd 2024-08-05.
- ↑ "Cymdeithas Wyddonol Genedlaethol books - All books by Cymdeithas Wyddonol Genedlaethol publisher | BookScouter.com". bookscouter.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-05.
- ↑ Wales, The Learned Society of. "Congratulations to Fellows". The Learned Society of Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-05.
- ↑ "Professor Deri Tomos | School of Environmental and Natural Sciences | Bangor University". www.bangor.ac.uk. Cyrchwyd 2024-08-05.