Deri Tomos
Gwyddonydd o Gymru yw Deri Tomos (ganwyd Awst 1952), a fu'n Athro Biocemeg ym Mhrifysgol Bangor cyn ymddeol yn 2016, pan ddaeth yn Athro Emeritws. Mae'n byw yn Llanllechid, Gwynedd. Enillodd Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017, am ei gyfraniad hyd-oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.[1]
Deri Tomos | |
---|---|
Ganwyd | 1952 Caint |
Man preswyl | Llanllechid |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athro cadeiriol |
Cysylltir gyda | Y Gwyddonydd, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
Gwobr/au | Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Bywyd cynnar a addysg
golyguMagwyd Alun Deri Tomos yng Nghaerdydd, gan dderbyn ei addysg yn Ysgol Gymraeg Bryntaf ac yna Ysgol Uwchradd y Bechgyn Caerdydd, cyn astudio Biocemeg yng Ngholeg y Brenin Caergrawnt a doethuriaeth mewn Biocemeg Planhigion.[2].
Gyrfa
golyguWedi cwblhau ei ddoethuriaeth daeth yn gymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Bangor ac fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn 1985. O fewn deng mlynedd derbyniodd Gadair Bersonol yn y Brifysgol. Bu'n gyfrifol am ddatblygu rhannau helaeth o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg y cynlluniau gradd meysydd Biocemeg, Bioleg a Biomeddygaeth. Mae'n gadeirydd y Panel Gwyddorau Naturiol ac yn aelod gweithgar o Fwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bu hefyd yn aelod diflino o'r Gymdeithas Wyddonol yn yr 1980au.
Mae wedi ysgrifennu erthyglau byr yn Y Faner, Y Gwyddonydd a Taliesyn ac ers 2008 mae wedi ysgrifennu'r golofn wyddonol yn y cylchgrawn Barn.
Mae'n gyfathrebwr naturiol a thrwy ei frwdfrydedd bu'n helpu poblogeiddio gwyddoniaeth drwy'r Gymraeg, gan ddod yn llais a wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau. Mae ei gyfraniadau ar deledu yn cynnwys 'Gwyddonwyr wrth eu Gwaith (1981) Dibendraw a Darwin, y Cymro a’r Cynllwyn (2014) a lleisiodd fersiwn Cymraeg o Cosmos (How the Universe Works) (2015) ar gyfer S4C. Cyd-gyflwynodd y rhaglen Labordy Deri a Bryn ar Radio Cymru.
Anrhydeddau
golyguYn 1994 fe'i anrhydeddwyd yn aelod Derwydd o'r Orsedd am ei gyfraniad at boblogeiddio gwyddoniaeth. Derbyniodd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Deri Tomos yn derbyn Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod 2017 (8 Ebrill 2017).
- ↑ Yr Athro Deri Tomos. Adalwyd ar 25 Ebrill 2017.