Cymdeithas y Cymod

Mae Cymdeithas y Cymod yn rhan o fudiad heddwch rhyngwladol IFOR (International Fellowship of Reconciliation, Cymdeithas y Cymod Rhyngwladol) sydd â changhennau ar draws y byd ac yng Nghymru hefyd. Mae'r aelodau yn wrthwynebwyr cydwybodol i ryfel a thrais. Credant mewn dulliau di-drais o ddatrys gwrthdaro, gan weithio dros heddwch. Mae bod yn heddychwr yn golygu tystio fod grym cariad yn gryfach na grym arfau, a bod casineb a dial yn arwain at ddistryw. Gwrthwynebant drais ar bob lefel mewn cymdeithas gan gynnwys trais yn y cartref, trais yn erbyn lleiafrifoedd yn ein cymdeithas, a thrais ar lefel ryngwladol.

Cymdeithas y Cymod
Enghraifft o'r canlynolorganization related to nonviolence Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.for.org.uk, https://www.cymdeithasycymod.cymru/ Edit this on Wikidata

Sefydlu golygu

Sefydlwyd Cymdeithas y Cymod yn 1914 gan wrthwynebwyr cydwybodol y Rhyfel Byd Cyntaf, ar sail eu cred Gristnogol. Erbyn heddiw, mae wedi datblygu i fod yn fudiad aml-ffydd o heddychwyr i atal gwrthdaro a chreu cyfiawnder. Mae'r aelodau yn ceisio byw bywyd di-drais, gan ymdrechu i greu trawsnewid personol, cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol.

"Beth bynnag a ddigwyddo, ni newidir ein perthynas ni. Rydym yn un yng Nghrist, ac ni all fod rhyfel rhyngom ni."

Dyma eiriau Almaenwr wrth Sais ar ddechrau'r Rhyfel Mawr, a dyma un o'r hadau y tyfodd Cymdeithas y Cymod ohoni. Ym mis Gorffennaf 1914 cynhaliwyd cynhadledd eciwmenaidd, ryngwladol yn yr Almaen gan Gristnogion a oedd yn ceisio rhwystro'r rhyfel a oedd yn crynhoi. Yn anffodus dechreuodd y Rhyfel cyn i'r gynhadledd orffen a rhaid oedd i'r cynhadleddwyr fynd adref. Er hyn, cyn gwahanu yng ngorsaf Cwlen, dywedodd Friedrich Sigmund-Schulze, gweinidog Lwtheraidd o'r Almaen, y geiriau uchod wrth ei gyfaill Henry Hodgkin, Crynwr o Loegr.

Daeth Cristnogion at ei gilydd yng Nghaergrawnt dros ddyddiau olaf y flwyddyn, a sefydlwyd Cymdeithas y Cymod. Roedd traddodiad cryf o heddychiaeth Cristnogol yn bodoli'n barod yng Nghymru, yn enwedig ymysg rhai o'r enwadau anghydffurfiol.

Bu cyfraniad Cymru i'r Gymdeithas yn un gwerthfawr iawn o'r dechrau. Yn wir, Richard Roberts o Flaenau Ffestiniog oedd ei hysgrifennydd cyffredinol llawn-amser cyntaf, a bu George M. Ll. Davies, un o heddychwyr enwocaf Cymru, yn arweinydd blaenllaw. Fel nifer o Gymry eraill, roedd ymroddiad George M. Ll. i heddwch yn ddwfn iawn, a chafodd ei garcharu am gyfnodau sylweddol am wrthwynebu rhyfel a gorfodaeth milwrol.

Yn 1919 daeth Cymdeithas y Cymod Rhyngwladol i fod. Bellach mae'n fudiad aml-ffydd gyda dros 40 o ganghenau tra wahanol ar draws y byd. Ym Mhrydain mae'r Gymdeithas wreiddiol wedi rhannu'n ganghennau annibynnol ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban; a mae cysylltiadau clos hefyd gyda mudiadau heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r Gymdeithas yng Nghymru'n parhau i lynu wrth ei sylfeini Cristnogol, ond estynnir croeso i rai o argyhoeddiadau gwahannol i rannu'n llawn yn ei gweithgareddau.

Nod y Gymdeithas golygu

Dechreuodd y Gymdeithas mewn ymateb i ryfel gyda'r argyhoeddiad bod pobl yn un yng Nghrist, beth bynnag fo'r rhaniadau a greuwyd gan gyd-ddyn. Nod y Gymdeithas heddiw yw parhau i dystio'n gadarn ac adeiladol i'r Cymod yng Nghrist, gan arddel heddychiaeth a didreisedd fel ffordd o fyw. Law-yn-llaw gyda gwrthwynebu rhyfel, ymrwymant ei hunain i sefydlu cymuned fyd-eang heddychlon sy'n rhydd o anghyfiawnder a gormes. Uniaethant gyda phawb dan ormes cyfundrefnau anghyfiawn, beth bynnag fo'u cenedl, hil neu grefydd, a chwiliant yn barhaus am ffyrdd newydd didrais o drawsnewid sefyllfeydd o'r fath.

Didreisedd golygu

Mae'r syniad o ddatrys gwrthdaro mewn modd di-drais yn syniad sy'n ceisio newid natur cymdeithas, ac yn fygythiad i'r rhai mewn grym. Cafodd y bobl sydd wedi arddel y syniad o ddidreisedd eu hystyried yn bobl beryglus ar hyd yr oesoedd.

Maent yn bobl sydd wedi cwestiynu mawredd Iwl Cesar, Napoleon, Teddy Roosevelt a Winston Churchill. Yn ystod pob gwrthdaro treisiol, boed yn Groesgad, chwyldro neu ryfel mae yna bobl sydd wedi ymwrthod â lladd gan ddadlau fod trais yn bechod ac yn ffordd aneffeithiol yn y pen draw i ddatrys y sefyllfa.

Cred y gymdeithas fod rhai o'r bobl yma wedi talu'r pris hefyd am ddilyn ffordd tangnefedd, fel yr aeth yr Iesu i'r groes, ac fe lofruddiwyd Gandhi a Martin Luther King, yn ein hoes ni. Credant nad yw trais ddim yn datrys dim, ond yn arwain at fwy o drais. Credant fod trais yn ymddangos fel pe bai'n gweithio dros dro, ond yn y tymor hir y gall greu anghyfiawnder a'r awydd i ddial. Credant na fu rhyfel erioed sydd wedi arwain at heddwch parhaol ac nad drwy ryfel a thrais y ceir heddwch, eithr drwy gymod.

Crefydd a Heddychiaeth golygu

Mae pob crefydd yn y byd wedi trafod grym didreisedd a drygioni trais. Mae'r Hindwiaid yn dweud mai didreisedd yw'r gyfraith uchaf, a'r ddelfryd. Mae crefydd y Bwdha yn gwahardd lladd gan gredu mai'r ffordd o gyrraedd y lefel uchaf o fodolaeth yw drwy gynorthwyo eraill. Ystyr mai ystyr y gair Islam yw "heddwch". Mae un o'r deg gorchymyn a gafodd Moses gan Dduw yn dweud "Na ladd". Yn ôl y Beibl, aeth Iesu Grist yn bellach drwy orchymyn pobl i "garu eu gelynion". Roedd yr Eglwys Fore yn ymwrthod â thrais yn llwyr; roedd Cristnogion yn barod i farw yn hytrach na lladd neb.

Hyd at 312 OC pan ddaeth Cristnogaeth yn grefydd swyddogol yr Ymerodraeth Rufeinig, drwy dröedigaeth yr ymerawdwr Cystennin Fawr, roedd Cristnogion wedi dilyn ffordd tangnefedd yn unig. Wedi 312 fe gafwyd am y tro cyntaf y syniad o'r milwr Cristnogol, ac erbyn y 5g roedd Awgwstws o Hippo wedi datblygu'r syniad o "rhyfel cyfiawn". Ond mae Cymdeithas y Cymod heddiw yn credu yn yr hyn a welir yn yr Efengylau sef esiampl Iesu Grist o ddidreisedd cyson yn ystod ei fywyd a'i farwolaeth ar y groes.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu