Winston Churchill
Gwleidydd o Sais oedd Winston Leonard Spencer Churchill (30 Tachwedd 1874 – 24 Ionawr 1965). Gwasanaethodd fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ganwyd Churchill i fywyd o gyfoeth a braint ar Tachwedd 30, 1874 ym Mhalas Blenheim, Swydd Rhydychen. Daeth Winston yn filwr ac yna’n newyddiadurwr. Enillodd ei enw da am ddewrder a menter fel gohebydd rhyfel yn ystod Rhyfel y Boer 1899–1902. Bu’n un o gyd-wleidyddion David Lloyd George tra’n aelod o’r Blaid Ryddfrydol cyn newid ei liwiau gwleidyddol i fod yn aelod o’r Blaid Geidwadol. Yn ystod y 1930au bu’n feirniaid cyson o bolisi dyhuddo Prydain tuag at Hitler ac yn 1940 olynodd Neville Chamberlain fel arweinydd Llywodraeth Prydain. Gwasanaethodd fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan arwain y wlad i fuddugoliaeth yn 1945. Collodd Churchill a’r Blaid Geidwadol Etholiad Cyffredinol 1945 ond dychwelodd i bŵer fel Prif Weinidog rhwng 1951 a 1955. Roedd hefyd yn awdur llyfrau hanes ac atgofion.
Winston Churchill | |
---|---|
![]() | |
Llais | Winston Churchill - Be Ye Men of Valour.ogg ![]() |
Ganwyd | Winston Leonard Spencer Churchill ![]() 30 Tachwedd 1874 ![]() Blenheim Palace ![]() |
Bu farw | 24 Ionawr 1965 ![]() Hyde Park Gate ![]() |
Man preswyl | Dulyn, Blenheim Palace ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, newyddiadurwr, arlunydd, hanesydd, hunangofiannydd, sgriptiwr, cofiannydd, gwladweinydd, swyddog milwrol, ysgrifennwr ![]() |
Swydd | Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Gweinidog dros Amddiffyn, Gweinidog dros Amddiffyn, Canghellor y Trysorlys, Ysgrifennydd Cartref, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, Minister of Munitions, Arweinydd yr Wrthblaid, Arweinydd y Blaid Geidwadol, Prif Arglwydd y Morlys, Prif Arglwydd y Morlys, Ysgrifennydd Gwladol dros y Trefedigaethau, Ysgrifennydd Gwladol yr Awyr, Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Arglwydd Geidwad y Pum Porthladd, colonel, Arweinydd y Tŷ Cyffredin, rheithor ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | A History of the English-Speaking Peoples, The Second World War, A Traveller in War-Time ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol, Plaid Ryddfrydol, y Blaid Geidwadol ![]() |
Tad | Lord Randolph Churchill ![]() |
Mam | Lady Randolph Churchill ![]() |
Priod | Clementine Churchill ![]() |
Plant | Diana Churchill, Randolph Churchill, Sarah Churchill, Marigold Churchill, Mary Soames ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Cymrawd y 'Liberation', Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Uwch Groes Urdd y Goron Dderw, honorary citizen of the United States, Grand cross of the Order of the White Lion, Gwobr Siarlymaen, Marchog Uwch Groes gyda Choler Urdd Sant Olav, Gwobr Rhyddid, Knight Grand Cross in the Order of the Netherlands Lion, Grand Cordon of the Order of Leopold, Medal Aur y Gyngres, Medal Gwasanaethau Difreintiedig, Queen's Sudan Medal, Queen's South Africa Medal, Order of Liberation, Médaille militaire, Medal Albert, Urdd y Gardas, Urdd Teilyngdod, Cydymaith Anrhydeddus, Medal Victoria, 1939–45 Star, Africa Star, France and Germany Star, King George VI Coronation Medal, Queen Elizabeth II Coronation Medal, Military Medal of Luxembourg, 1914–15 Star, British War Medal, Medal jiwbilî Arian Brenin Siôr, Urdd Sant Olav, Urdd yr Eliffant, Croix de guerre, Order of the Oak Crown, Croesau Teilyngdod Milwrol, Order of the Star of Nepal, Croes Rhyddid, Urdd y Llew Gwyn, Honorary doctor of Leiden University, Territorial Decoration, honorary citizen of Brussels, honorary doctor of the University of Miami ![]() |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
CBAC | |
Dirwasgiad a Rhyfel | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
TeuluGolygu
Roedd Churchill yn fab i’r Arglwydd Randolph Churchill a’i wraig Jennie (cyfenw morwynol Jerome). Roedd ei dad, yr Arglwydd Randolph Churchill, yn wleidydd Ceidwadol uchel ei barch.
Priododd Clementine Hozier ar 12 Medi 1908, yn Eglwys Santes Marged, San Steffan. Bu'n byw yn Chartwell, Caint, o 1922. Ganwyd iddynt bedwar o blant:
- Diana Churchill (1909-1963)
- Randolph Churchill (1911-1968)
- Sarah Churchill (1914-1982)
- Marigold Frances Churchill (1918-1921)
Gyrfa wleidyddolGolygu
1902 - Mentrodd i'r byd gwleidyddol fel AS Ceidwadol, gan newid plaid yn ddiweddarach ac ymuno â’r Rhyddfrydwyr. Daeth yn gyfeillgar â Lloyd George a gyda’i gilydd gwthion nhw lawer o ddiwygiadau cymdeithasol trwy’r Senedd.
1910 – Gorchmynnodd anfon milwyr i dorri streic y glowyr yn Nhonypandy
1914 - Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, dewiswyd Churchill i fod yn gyfrifol am y Llynges Frenhinol fel Prif Arglwydd y Morlys. Roedd yn Brif Arglwydd egnïol ac effeithlon, ond beirniadwyd ei gynlluniau i ymosod ar Dwrci a Gallipoli. Rhoddwyd y bai ar Churchill a bu’n rhaid iddo ymddiswyddo. Aeth i ymladd wedyn ar y Ffrynt Gorllewinol gyda Ffiwsilwyr Brenhinol y Sgotiaid.
1917 – Gyda Lloyd George yn Brif Weinidog cafodd swydd yn y llywodraeth, sef Gweinidog Arfau Rhyfel. Gweithiodd Churchill yn galed i gyflymu’r cyflenwad o arfau rhyfel ar gyfer y ffrynt. Yna cafodd swydd fel y Gweinidog Rhyfel.
1922 - Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf arhosodd David Lloyd George mewn grym tan 1922. Wedi hynny, arhosodd Churchill yn y Llywodraeth gan ymuno â’r Ceidwadwyr unwaith eto.
1924 - 1929 Bu’n Ganghellor y Trysorlys yn llywodraeth Doriaidd Stanley Baldwin rhwng 1924 a 1929. Yn y cyfnod hwn, roedd yn cael ei ddrwgdybio gan y pleidiau gwleidyddol eraill. Ni allai llawer o’i gyd Geidwadwyr ymddiried ynddo oherwydd iddo fod yn Rhyddfrydwr ar un adeg, ac roedd y Rhyddfrydwyr wedi colli ffydd ynddo oherwydd iddo droi at y Torïaid. Enynodd gasineb y glowyr oherwydd ei orchymyn i anfon milwyr i dorri streic y glowyr yn Nhonypandy yn 1910 ac atgasedd Cyngres yr Undebau Llafur (TUC: Trade Union Congress) am ei ymdrechion i dorri’r Streic Gyffredinol yn 1926. Erbyn 1929 roedd wedi cweryla â sawl aelod o’i blaid ei hun ac yn feirniadol iawn o bolisïau’r llywodraeth.
1940-45 Roedd yn Brif Weinidog Prydain adeg yr Ail Ryfel Byd ac arweiniodd y wlad i fuddugoliaeth yn erbyn yr Almaen Natsïaidd.
1945 – Collodd y Blaid Geidwadol yr Etholiad Cyffredinol. Y Blaid Lafur dan arweiniad Clement Attlee oedd bellach mewn grym.
1951 – Ailetholwyd ef yn Brif Weinidog ar lywodraeth Dorïaidd
1955 – Ymddiswyddodd fel Prif Weinidog oherwydd afiechyd ond parhaodd i fod yn Aelod Seneddol tan 1964.[1][2]
Terfysg TonypandyGolygu
Er bod Churchill fel arfer yn cael ei gofio fel arweinydd llwyddiannus yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn Ne Cymru roedd drwgdeimlad yn ei erbyn (sy'n parhau hyd heddiw) oherwydd y ffordd y deliodd â streic glowyr Tonypandy ym 1910.[3]
Gwrthdaro treisgar rhwng glowyr a’r heddlu oedd Terfysg Tonypandy yn 1910 sy’n cael ei weld fel anghydfod diwydiannol mwyaf chwerw’r cyfnod.
Un o brif ddigwyddiadau Terfysg Tonypandy oedd yr hyn a ddigwyddodd nos Fawrth, 8 Tachwedd 1910, pan fu’r streicwyr yn ymladd â’u dyrnau yn erbyn Heddlu Morgannwg, oedd â Heddlu Dinas Bryste wrth gefn. Ymyrrodd yr heddlu pan ddechreuodd y streicwyr dorri ffenestri busnesau yn Nhonypandy. Anfonwyd galwadau gan swyddogion lleol at Lywodraeth Llundain i gael cymorth milwrol i ymdopi â’r sefyllfa fygythiol. Oherwydd y penderfyniad gan Winston Churchill, fel yr Ysgrifennydd Cartref, i anfon milwyr i’r ardal i gefnogi’r heddlu’n fuan ar ôl y terfysgoedd ar 8 Tachwedd, bu drwgdeimlad tuag ato yn Ne Cymru gydol ei fywyd. Mae cyfrifoldeb a rôl Winston Churchill yn y terfysgoedd yn parhau i fod yn bwnc llosg sydd wedi ysgogi cryn ddadlau ac anghytuno ymysg haneswyr.[4][5]
Mae rhai haneswyr o’r farn bod ei benderfyniad i anfon y milwyr wedi achosi mwy o wrthdaro a chynyddu’r gwrthwynebiad i brotestiadau’r gweithwyr ac yn y pen draw wedi arwain at fethiant streic y gweithwyr.[3]
Yr Ail Ryfel BydGolygu
I’r rhan fwyaf o bobl Prydain, roedd y cynghreiriaid yn fuddugol yn 1945 o ganlyniad i arweinyddiaeth ysbrydoledig Churchill.
Yn ystod y 1930au roedd Churchill wedi bod yn un o feirniaid mwyaf llafar ‘polisi dyhuddo’ Llywodraeth Stanley Baldwin a Neville Chamberlain. Roedd yn awyddus iawn i berswadio’r llywodraeth a phobl Prydain i beidio ag ymddiried yn Stalin, Mussolini na Hitler oherwydd credai bod y polisi dyhuddo yn gamgymeriad a fyddai’n arwain at ryfel yn y pen draw. Ond ychydig iawn a wrandawodd ar ei rybuddion ynglŷn â pheryglon comiwnyddiaeth, ffasgaeth a Natsïaeth. Nid oedd y cyhoedd eisiau gwrando arno. Roeddent yn ofni'r posibilrwydd o ryfel arall, ac felly roedd yn well ganddyn nhw gredu yn y polisi tramor heddychlon yr oedd Baldwin a Chamberlain yn ei ddilyn. Roedd ffordd Churchill o ddelio â phobl fel Hitler yn ymddangos yn ymosodol iddyn nhw, ac felly roedd yn siŵr o arwain at ryfel.
Gyda chychwyn y rhyfel ym mis Medi 1939 roedd rhybuddion Churchill wedi dod yn wir. Rhoddodd y Prif Weinidog, Neville Chamberlain rôl Prif Arglwydd y Morlys i Churchill. Ar ôl yr ymosodiad ar Ffrainc ym mis Mai 1940, ac ar ôl araith bwerus gan Lloyd George yn dweud wrtho y dylai fynd, ymddiswyddodd Chamberlain. Roedd rhai Aelodau Seneddol o blaid rhoi swydd y Prif Weinidog i ddirprwy Chamberlain, Arglwydd Halifax, ond yn y pen draw, cytunwyd mai Churchill fyddai’r dyn mwyaf addas i arwain y llywodraeth glymblaid newydd.
Roedd Churchill yn arweinydd rhyfel poblogaidd. Dechreuodd godi ysbryd truenus pobl Prydain drwy roi areithiau angerddol ac ymweld yn bersonol ag amrywiol rannau o’r wlad. Byddai’n mynd ar daith o amgylch y dinasoedd a oedd wedi cael eu bomio i ddangos cefnogaeth pan oedd y Blitz ar ei waethaf. Hyd yn oed pan oedd Prydain yn dioddef problemau difrifol fel Dunkirk ym mis Mai 1940, y gorchfygiad yn rhyfel y diffeithdir ym mis Ionawr 1941 a chwymp Singapôr i Japan ym mis Chwefror 1942, roedd Churchill yn codi ysbryd ei gydwladwyr drwy roi’r argraff ei fod yn credu’n gryf y bydden nhw’n ennill y rhyfel. Roedd yn areithiwr penigamp a oedd yn medru ysbrydoli pobl.
Dechreuodd ‘Ymgyrch at Fuddugoliaeth’ Churchill ym mrwydr El Alamein ym mis Hydref 1942. Penododd y Cadfridog Montgomery i arwain Byddin Prydain yng Ngogledd Affrica yn llwyddiannus. Trechwyd yr Almaenwyr yn llwyr yn El Alamein ac eto yn Tiwnisia a Sisili.
Churchill wnaeth annog cadfridogion y cynghreiriaid i oresgyn yr Eidal ym mis Gorffennaf 1943 a Ffrainc (D-Day) ym mis Mehefin 1944. Wedi ei annog gan Stalin i lansio ymosodiad yn Ewrop, fel y byddai’r Almaenwyr yn gorfod ymladd ar ddwy ffrynt, ac ar ôl i UDA ymuno â’r rhyfel, penderfynodd Churchill bod ymosodiad gan y Cynghreiriaid ar Ewrop yn allweddol i ennill y rhyfel yn Ewrop. Mynnodd, serch hynny, bod angen cynllunio gofalus a chymerwyd bron i ddwy flynedd i wneud hynny. Cynlluniwyd ymosodiad y Cynghreiriaid yn Ewrop gan y Cadfridog Dwight Eisenhower, Pencadlywydd Cynghreiriol (Supreme Allied Commander) a ffug-enw’r ymosodiad oedd Operation Overlord. Yn 1953 etholwyd Eisenhower yn Arlywydd UDA. Olynwyd ef yn y swydd gan John Fitzgerald Kennedy yn 1961.[6]
Drwy ei waith caled sicrhaodd Churchill bod arweinwyr rhyfel y cynghreiriaid, sef Franklin D. Roosevelt yn UDA a Stalin yn yr Undeb Sofietaidd, yn rhoi eu gwahaniaethau o’r neilltu er mwyn trechu Hitler a’r Almaen.[1]
MarwolaethGolygu
Bu farw yn Llundain ar Ionawr 24, 1965 a chladdwyd ef ym Mynwent Eglwys Sant Martin, Bladon. Rhoddwyd angladd gwladol iddo.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ 1.0 1.1 "Dirwasgiad a Rhyfel" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 10 Mai 2020.
- ↑ "Winston Churchill | Biography, World War II, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-10.
- ↑ 3.0 3.1 Davies, John, 1938- (1994). A history of Wales. London: Penguin Books. t. 474. ISBN 0-14-014581-8. OCLC 31486171.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ "Dadleuon Hanesyddol" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 10 Mai 2020.
- ↑ "Cefnogi astudiaeth fanwl 1900–1918". resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com. Cyrchwyd 2020-05-10.
- ↑ "D-Day 75: Cofio glaniadau Normandi". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2019-06-06. Cyrchwyd 2020-05-10.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Walter Runciman |
Aelod Seneddol dros Oldham 1900 – 1906 |
Olynydd: John Bright |
Rhagflaenydd: William Houldsworth |
Aelod Seneddol dros Gogledd-orllewin Manceinion 1906 – 1908 |
Olynydd: William Joynson-Hicks |
Rhagflaenydd: Alexander Wilkie |
Aelod Seneddol dros Dundee 1908 – 1922 |
Olynydd: Edmund Morel |
Rhagflaenydd: Charles Lyre |
Aelod Seneddol dros Epping 1924 – 1945 |
Olynydd: Leah Manning |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Woodford 1945 – 1964 |
Olynydd: Patrick Jenkin |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: Philip Snowden |
Canghellor y Trysorlys 6 Tachwedd 1924 – 4 Mehefin 1929 |
Olynydd: Philip Snowden |
Rhagflaenydd: Neveille Chamberlain |
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig 10 Mai 1940 – 27 Gorffennaf 1945 |
Olynydd: Clement Attlee |
Rhagflaenydd: Clement Attlee |
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig 26 Hydref 1951 – 7 Ebrill 1955 |
Olynydd: Anthony Eden |
Swyddi gwleidyddol pleidiol | ||
Rhagflaenydd: Neveille Chamberlain |
Arweinydd y Blaid Geidwadol 1940 – 1955 |
Olynydd: Anthony Eden |