Cymraeg y gogledd

(Ailgyfeiriad o Cymraeg y Gogledd)


Cymraeg y Gogledd yw'r Gymraeg a sieredir yn y rhan fwyaf o Ogledd Cymru a rhannau gogleddol Canolbarth Cymru. Nid yw'n dafodiaith ynddi'i hun ond yn hytrach grŵp o dafodieithoedd sydd gyda'i gilydd yn ffurffio un o ddwy gangen dafodieithol y Gymraeg (Cymraeg y de yw'r llall).

Cymraeg
Baner Cymru
Baner Cymru
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar
y Gymraeg
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Rhennir Cymraeg y Gogledd yn ddwy brif dafodiaith, sef Gwyndodeg a Phowyseg. Mae gan y ddwy dafodiaith hyn eu hymraniadau hwythau yn ogystal. Sylwer hefyd mai dosbarthiad cyffredinol yw hyn. Mewn rhai pethau mae'r Bowyseg a'r Ddyfedeg yn fwy agos i'w gilydd nag y maen nhw i'r Wyndodeg ar y naill law a'r Wenhwyseg ar y llall; yn wir mai'r Wyndodeg a'r Wenhwyseg yn rhannu sawl nodwedd â'i gilydd, e.e. petha am y gair 'pethau' (ond pethe yn y Bowyseg a'r Ddyfedeg).

Nodweddion cyffredinol golygu

Efallai y nodwedd amlycaf yw'r ffurfiau ar eiriau cyffredin sy'n arbennig i'r gogledd. Y pwysicaf yw'r defnydd o'r o a fo am y rhagenwau e a fe yn y de. Mae teitl y rhaglen gomedi adnabyddus Fo a Fe gan Ryan a Ronnie yn adlewyrchu'r rhaniad ieithyddol sylfaenol hyn.

Llyfryddiaeth golygu

  • Alan R. Thomas, The Linguistic Geography of Wales (Caerdydd, 1973)

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am y Gymraeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.