Un o ranbarthau answyddogol Cymru sydd yng nghanol y wlad yw Canolbarth Cymru. Mae'n ffinio â Gogledd Cymru i'r gogledd, Gororau Lloegr i'r dwyrain, De a Gorllewin Cymru i'r de a Bae Ceredigion i'r gorllewin. Mae'n cynnwys bryniau'r Elenydd, Fforest Faesyfed a rhan o'r Berwyn, a'r afonydd Teifi, Gwy, Hafren ac Ystwyth.

Canolbarth Cymru

Disgrifiad golygu

Yn hanesyddol, roedd Canolbarth Cymru yn cynnwys Teyrnas Powys a gogledd-ddwyrain Teyrnas Deheubarth. Yn weinyddol, mae'n cynnwys awdurdodau unedol Ceredigion a Phowys.

Ceir ymraniadau sylweddol yn ddaearyddol a diwylliannol o fewn y rhanbarth. I'r gorllewin o fynydd Pumlumon a bryniau Elenydd ceir Ceredigion, sir sy'n wynebu Bae Ceredigion ac sy'n perthyn yn nes, yn hanesyddol, i Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin (de-orllewin Cymru) nag i Bowys. Mae awdurdod lleol Powys, sef dwyrain y rhanbarth, yn llawer mwy Cymraeg yn y parthau gorllewinol nag yn yr ardaloedd ar hyd y ffin â Lloegr a fu'n rhan o'r Mers canoloesol. Mae cryn wahaniaeth rhwng gogledd a de Powys hefyd.

Unedau gweinyddol, hen a newydd golygu

Awdurdodau unedol golygu

Crëwyd yr awdurdodau unedol yn 1996.

  • Ceredigion (yn cyfateb, gyda mân newidiadau, i sir draddodiadol Aberteifi)
  • Powys

Siroedd cadwedig golygu

Dyma'r siroedd a grëwyd yn 1974. Ers 1996 maent yn 'siroedd cadwedig' yn unig.

  • Dyfed (gorwedd Ceredigion yng ngogledd yr hen sir)
  • Powys (mae Powys yn cael ei gyfrif fel 'sir gadwedig' yn ogystal â bod yn awdurdod unedol cyfoes)

Siroedd gweinyddol golygu

Crëwyd y siroedd hyn dan y Ddeddf Llywodraeth Leol yn 1888. Cawsant eu seilio ar y siroedd traddodiadol, ond nid oeddynt yn union yr un fath. Roedd y siroedd gweinyddol yn cael eu defnyddio ar gyfer llywodraeth leol tan 1974.

Gweler hefyd golygu


Rhanbarthau Cymru  
Canolbarth | De | Gogledd | Gorllewin