Cyfres comedi boblogaidd ar y teledu oedd Fo a Fe. Darlledwyd y rhaglenni gwreiddiol ar BBC Cymru o Ragfyr 1970 hyd Ionawr 1977. Sgriptwyd y gyfres gan Gwenlyn Parry a Rhydderch Jones. Roedd yn serennu Guto Roberts a Ryan Davies. Dyma un o'r cyfresi teledu Cymraeg mwyaf poblogaidd erioed. Daeth i ben yn 1977 oherwydd marwolaeth annisgwyl Ryan Davies ar ymweliad byr a'r Unol Daleithiau yn Ebrill y flwyddyn honno.

Seilir y gyfres ar y gwrthdaro diniwed rhwng Ephraim Hughes (Guto Roberts) a Twm Twm (Ryan Davies). Mae Ephraim yn "Gog" ('Fo') sydd wrth ei fodd ym myd yr eisteddfod a'r capel tra bod Twm Twm yn "Hwntwr" ('Fe') gwerinol sy'n rhoi'r flaenoriaeth i gwrw a betio.

Prif gymeriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato