Cymraeg y Wladfa

tafodiaith y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia


Tafodiaith Cymraeg a sieredir yn y Wladfa yw Cymraeg y Wladfa. Mae rhwng 5,000[1] a 12,500[2] o bobl yn ei siarad fel mamiaith.

Cymraeg
Baner Cymru
Baner Cymru
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar
y Gymraeg
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Cyfuniad o dafodieithoedd ar draws Cymru yw Cymraeg y Wladfa: clywir geiriau gogleddol a deheuol gan yr un siaradwr. Ceir dylanwad y Sbaeneg ar ynganiad ac ar eirfa, er enghraifft dywed nifer o Wladfawyr sobrino a sobrina yn lle'r geiriau Cymraeg "nai" a "nith".[3] Enghraifft arall yw'r ymadrodd "siarad drwy'r ffôn", sy'n efelychu'r ffurf Sbaeneg por teléfono, yn hytrach na "siarad ar y ffôn" fel yng Nghymru. Defnyddir geiriau llanw Sbaeneg, megis este a bueno, wrth siarad Cymraeg.[4]

Oriel luniau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Wales and Argentina". Wales.com. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-16. Cyrchwyd 23 Ionawr 2012. Check date values in: |accessdate= (help)
  2. Western Mail, 27 Rhagfyr 2004
  3. Julie Brake a Christine Jones. Teach Yourself World Cultures: Wales (Hodder & Stoughton, 2004), t. 36–37.
  4. Sut mae tafodiaith y Gymraeg wedi datblygu yn Y Wladfa?, BBC Cymru Fyw (22 Tachwed 2017). Adalwyd ar 4 Rhagfyr 2017.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am yr Ariannin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am y Gymraeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.