Tref yn Nhalaith Chubut, yr Ariannin, yw Gaiman. Mae ganddi boblogaeth o tua 6,000. Gaiman yw'r man lle gwelir y dylanwad Cymreig cryfaf yn Y Wladfa.

Gaiman
Mathbwrdeistref Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,730 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1874 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGaiman Department Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Ariannin Yr Ariannin
Uwch y môr13 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.28°S 65.48°W Edit this on Wikidata
Cod postU9105 Edit this on Wikidata
Map

Sefydlwyd Gaiman yn 1874 ar lannau Afon Camwy tua 17 kilomedr o Drelew. Mae'r enw yn dod o'r iaith Tehuelche, a'r ystyr yw "maen hogi". Mae'n boblogaidd iawn gyda thwristiad, yn arbennig y Tai Tê Cymreig sydd yn bur niferus ymo. Yn yr amgueddfa, y Museo Histórico Regional, gellir gweld dogfennau yn Gymraeg a Sbaeneg yn cofnodi sefydlu'r Wladfa. Gellir gweld nifer o gapeli Cymreig hefyd; Capel Bethel yw'r mwyaf ohonynt.

Rhyw 10 km i'r de o Gaiman mae Bryn Gwyn, lle gellir gweld nifer fawr o ffosilau.

Stryd Fawr, Gaiman
Bwyty yn nhref Gaiman â'r enw Cymraeg "Tŷ Nain"

Dolenni allanol

golygu