Cymru Annibynnol (plaid wleidyddol)

Plaid wleidyddol fychan weriniaethol sy'n credu mewn annibyniaeth i Gymru ydy Cymru Annibynnol (Saesneg: Independent Wales Party), arlywydd Christopher Trefor Davies.

Cymru Annibynnol
Enghraifft o'r canlynolplaid wleidyddol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2000 Edit this on Wikidata

Ffurfiwyd y blaid ar 31 Ionawr 2000 yn Senedd-dy Owain Glyndŵr ym Machynlleth.[1] Sefydlwyd gan gyn-aelodau Plaid Cymru, ar ôl i arlywydd y blaid honno, Ieuan Wyn Jones, leihai cyfnogaeth Plaid Cymru dros annibyniaeth i Gymru. Ei slogan yw "Fe godwn ni eto! We shall rise again".

Un o bolisïau Cymru Annibynnol yw cynllun i atal y mewnlifiad i'r Fro Gymraeg (a ddiffinir ganddynt fel ardaloedd lle ceir dros 40% o'r boblogaeth frodorol - h.y. heb gynnwys mewnfudwyr diweddar - yn Gymry Cymraeg) trwy greu Cofrestr Eiddo Lleol er mwyn cael cyflenwad o dai fforddiadwy i bobl leol.

Mae'r blaid yn cymryd rhan mewn etholiadau lleol ac i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unig, nid etholiadau i San Steffan. Dydyn nhw ddim wedi cael llawer o lwydd gwleidyddol eto. Newidodd Cymru Annibynnol ei henw yn 2004, i fod yn "Cymru Rydd Welsh Republicans".

Cyfeiriadau

golygu
  1. BBC Cymru.

Dolenni allanol

golygu