Ieuan Wyn Jones
Gwleidydd Cymreig yw Ieuan Wyn Jones (ganwyd 22 Mai 1949). Bu'n Arweinydd Plaid Cymru rhwng 2006 a 2012 ac ef oedd Dirprwy Brif Weinidog Cymru o 2007 hyd 2011. Ymddiswyddodd o'r Cynulliad ar 20 Mehefin 2013 i weithio ym Mharc Gwyddoniaeth Ynys Môn ond dychwelodd at wleidyddiaeth ym Mehefin 2017 pan ymgeisiodd eto yn etholaeth Ynys Môn yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017.
Ieuan Wyn Jones | |
| |
Cyfnod yn y swydd 11 Gorffennaf 2007 – 6 Mai 2011 | |
Rhagflaenydd | Mike German |
---|---|
Geni | Dinbych | 22 Mai 1949
Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
Galwedigaeth | Cyfreithiwr |
Teulu, addysg a gyrfa
golyguFe'i ganed yn Ninbych yn fab i weinidog gyda'r Bedyddwyr ac yn siaradwr Cymraeg. Aeth i Ysgol Ramadeg Pontardawe, ac Ysgol y Berwyn, Y Bala. Astudiodd y gyfraith ym Mholitecnic Lerpwl, lle y cyfarfu â Dafydd Elis Thomas ac yn ddiweddarach aeth i Brifysgol Llundain.
Roedd yn briod i Eirian Llwyd hyd at ei marwolaeth yn 2014 ac roedd ganddynt dri o blant. Yn ei amser hamdden mae'n mwynhau astudio hanes lleol, cerdded a chwaraeon. Yn fab i weinidog, mae'n flaenor yn ei gapel lleol ac yn pregethu yn achlysurol. Derbyniwyd yn aelod o'r Orsedd yn 2001.
Gweithiodd fel cyfreithiwr o 1974 tan ei ethol yn aelod seneddol dros Ynys Môn yn 1987.
Bu'n Gadeirydd Plaid Cymru rhwng 1980 a 1982 a rhwng 1990 a 1992. Ef oedd Cyfarwyddwr Ymgyrchu y Blaid yn Etholiadau Cynulliad 1999.
Cynrychiolodd Sir Fôn fel aelod seneddol dros Blaid Cymru o 1987 hyd 2001 ac yn y Cynulliad o Fai 1999 hyd 2013. Daeth yn Llywydd Plaid Cymru yn dilyn ymddeoliad Dafydd Wigley ac yn dilyn etholiad 2003 daeth Dafydd Iwan yn Llywydd, ac etholwyd Ieuan Wyn Jones yn Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad. Cymerodd drosodd o Mike German fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru yn y llywodraeth glymblaid Llafur - Plaid Cymru yn 2007, a daliodd y swydd hyd i'r Blaid Lafur ffurfio llywodraeth leiafrifol yn 2011. Yn 2007 fe enwyd Jones yn "Wleidydd y Flwyddyn" gan BBC Cymru, ar eu rhaglen am.pm..[1]
Cychwynodd swydd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Parc Gwyddoniaeth Menai yn 2013 ac arweiniodd y prosiect drwy ei gyfnod datblygu. Bydd yn ymddeol yng Ngwanwyn 2018 ond yn parhau i fod yn gyfarwyddwr gyda cwmni M-SParc.[2]
Arddull personol
golyguDisgrifir Jones fel cyd-drafodwr craff iawn, ac yn "ddyn o egwyddorion, sydd hefyd yn ddyn dibynadwy ac yn wrandawr da."[3] Cyfarfu Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad gyda Ieuan Wyn Jones dros 30 mlynedd yn ôl mewn coleg yn Lerpwl (y Liverpool Polytechnic) a dywedodd amdano, "mae'n drefnydd da o gryfder anferthol".[3] Dywedodd hefyd fod Jones yn siarad gyda phob aelod o'i grwp yn unigol cyn gwneud penderfyniad, a bod Llywodraeth y Cynulliad yn cyflawni'r hyn mae'n ei addo.
Mae ei arddull yn llawer mwy addfwyn a thawel nag arddull Rhodri Morgan.[3] Disgrifiwyd Jones gan arweinydd y Blaid Geidwadol fel "person y medrwch ddibynnu arno" ac "mae ganddo bâr saff iawn o ddwylo... arweinydd da hefyd i'w blaid."[3]
Pragmatydd ydy Jones yn y bôn[4] gan lywio'i ffordd drwy'r canol - rhwng elfennau sosialaidd aelodau de Cymru ac ymgyrchwyr iaith Môn a Gwynedd. Tra'n siarad am sefyllfa Gogledd Iwerddon yn Stormont ar 16 Gorffennaf 2007, dywedodd Jones, "Gwelsom yng Nghymru, hefyd, bleidiau'n dod at ei gilydd i rannu rhaglen llywodraethu a rhannu'r penderfyniad i lwyddo i wella ansawdd bywydau pobl, yr holl bobl drwy'r holl wlad...".[5]
Llyfryddiaeth
golygu- Ewrop: Y Sialens i Gymru. Gwasg Taf 1996 (Dwyieithog)
- Y Llinyn Arian - Agweddau o Fywyd a Chyfnod Thomas Gee 1815 - 1898. Gwasg Gee 1998
- O Gynulliad i Senedd. Darlith Flynyddol Sefydliad Gwleidyddol Cymru 2001. Dwyieithog.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jones takes top politician award. BBC (5 Rhagfyr 2007).
- ↑ Ieuan Wyn Jones yn ymddeol, ond yn parhau’n gyfarwyddwr , Golwg360, 20 Rhagfyr 2017.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 Adrian Browne (11 Gorffennaf 2007). A 'remarkable journey' for Jones. BBC.
- ↑ The Comeback Kid. BBC (15 Medi 2003).
- ↑ Jones and Brown meet at Stormont. BBC (16 Gorffennaf 2007).
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Archifwyd 2010-08-02 yn y Peiriant Wayback
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Keith Best |
Aelod Seneddol dros Ynys Môn 1987 – 2001 |
Olynydd: Albert Owen |
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
Rhagflaenydd: swydd newydd |
Aelod Cynulliad dros Ynys Môn 1999 – presennol |
Olynydd: deiliad |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: Dafydd Wigley |
Arweinydd yr Wrthblaid yn y Cynulliad 2000 – 2007 |
Olynydd: Nick Bourne |
Rhagflaenydd: gwag Mike German (hyd 2003) |
Dirprwy Brif Weinidog Cymru 2007 – 2011 |
Olynydd: swydd yn wag |
Swyddi gwleidyddol pleidiol | ||
Rhagflaenydd: Dafydd Wigley |
Llywydd Plaid Cymru 2000 – 2003 |
Olynydd: Dafydd Iwan |
Rhagflaenydd: Dafydd Iwan (fel Llywydd) |
Arweinydd Plaid Cymru 2006 – 2012 |
Olynydd: Leanne Wood |